Gr ŵ p Mathemateg Gyfrifiannol Rydym yn datblygu ac yn dadansoddi dulliau cyfrifiannol a rhifyddol newydd, gan astudio ffyrdd o'u cymhwyso at sawl maes, megis Topoleg Gyfrifiannol, Gwyddor Data, Damcaniaeth Medrydd Dellt, Bioleg Fathemategol, Ymchwil Canser a Geometreg Algebraidd Gymhwysol. Gr ŵ p Tebygolrwydd Mae ein gwaith ymchwil yn archwilio llawer o agweddau ar ddamcaniaethau modern mewn perthynas â phrosesau stocastig ac, yn fwy cyffredinol, meysydd ar hap gan gymhwyso at gyllid, bioleg fathemategol, ffiseg fathemategol, efelychu data a thu hwnt. Addysg Mathemateg Ffurfiwyd y grŵp ymchwil addysg yn 2014 fel rhan o ddiddordeb cynyddol yr Adran Fathemateg mewn addysg mathemateg mewn ysgolion yng Nghymru, a'i dylanwad dros yr addysg honno. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ein hymchwil ar ein gwefan. abertawe.ac.uk/mathemateg/ ymchwil-ac-effaith
MATHEMATEG MSc drwy Ymchwil/ MPhil/PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil sy'n canolbwyntio ar y grwpiau ymchwil canlynol. Gr ŵ p Algebra, Geometreg a Thopoleg Mae ein gwaith ymchwil yn archwilio llawer o agweddau ar ddamcaniaethau geometreg Gr ŵ p Dadansoddi a Hafaliadau Gwahaniaethol Rhannol Anlinellol Rydym yn grŵp bywiog sy'n gweithio ar ddadansoddi hafaliadau gwahaniaethol rhannol o amrywiaeth o safbwyntiau. Gr ŵ p Biofathemateg Mae'r grŵp yn cymhwyso technegau mathemategol a chyfrifiannol arloesol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau ymchwil o'r biowyddorau, gwyddorau bywyd a meddygaeth. modern a pheirianwaith algebraidd cysylltiedig.
PROSESAU STOCASTIG: DAMCANIAETH A CHYMHWYSO MRes ALl RhA Cyflwynir yr MRes mewn Prosesau Stocastig drwy fodiwlau opsiynol ar gyfer yr elfen a addysgir a ddilynir gan brosiect ymchwil mawr sy'n cyfrannu at y maes mewn ffordd benodol, yn hytrach na dim ond cymhwyso gwybodaeth bresennol. Mae pynciau fel arfer yn cynnwys: • Dadansoddi Dimensiynol Anfeidraidd Stocastig • Mathemateg Ariannol • Prosesau Lévy a Phrosesau naid mwy Cyffredinol
117
Made with FlippingBook - Online magazine maker