ABERTAWE A’R
Bannau Brycheiniog, Cymru
AR GARREG Y DRWS Ar benrhyn Gŵyr, cewch lonydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, ymlacio ar draethau arobryn ac archwilio harddwch naturiol cefn gwlad, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 30 munud i ffwrdd yn unig yn y car. Mae’r rhanbarth yn cynnig rhai o leoliadau gorau’r DU ar gyfer cerdded ar lwybrau arfordirol, syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a golff; i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon antur, neu os yw’n well gennych dro hamddenol ar y traeth, mae rhywbeth at ddant pawb. Y MWMBWLS Man geni Catherine Zeta Jones, mae pentref pert y Mwmbwls yn cynnig amrywiaeth gwych o siopau, caffis, bariau gwin, tafarnau a bwytai. Ewch am dro a mwynhau hufen iâ yn un o’r parlyrau niferus ar hyd y promenâd, neu beth am alw yn un o’r bwytai a chaffis glan môr newydd â golygfeydd dros Fae Abertawe. SIOPA Gallwch chi ddewis o siopau a brandiau mawr y stryd fawr a siopau bach annibynnol, siopau arbenigol ac arcedau traddodiadol. Gallwch ymweld â siopau dillad dylunwyr yn y Mwmbwls, siopa am ddillad yr oes a fu yn Uplands, neu fachu bargen ym marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol y ddinas.
10
Made with FlippingBook - Online magazine maker