“
Ers cwblhau fy BSc, datblygais ddiddordebau ymchwil mewn tebygolrwydd, a dod yn angerddol am greu atebion i broblemau byd go iawn gyda’m set o sgiliau. Mae'r Adran Fathemateg ym Mhrifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran arloesi yn y maes ac mae ganddi ddiwylliant ymchwil cryf. Ymhellach, mae gan staff ymchwil yn yr adran feysydd arbenigedd gan gynnwys disgyblaethau craidd damcaniaethau tebygolrwydd a phrosesau stocastig, a meysydd rhyngddisgyblaethol ystadegau cymhwysol a biofathemateg. Mae'r Adran yn gweithio'n agos gyda sefydliadau proffesiynol, hynny yw, Cymdeithas Fathemategol Llundain a'r Sefydliad a Chyfadran Actiwarïaid. Cefais fentora a goruchwyliaeth academaidd ardderchog gan fy ngoruchwylwyr yn ystod fy ngradd MRes mewn Prosesau Stocastig a’m PhD mewn Mathemateg, ac roedd aelodau staff bob amser ar gael ar gyfer ymgynghoriadau pan oedd angen. Mae'r Adran Fathemateg hefyd yn cefnogi rhaglenni hyfforddiant, adnoddau ar sgiliau ymchwil a datblygiad proffesiynol gan gynnwys ysgrifennu gwyddonol, rheoli prosiectau a sgiliau cyfathrebu. Drwy gydol fy amser yn Abertawe, gwnes i fwynhau beicio neu gerdded yn ling-di-long i'r Mwmbwls ar hyd y traeth yn benodol, yn ogystal â pha mor gyflym roedd i gyrraedd y campws, y traeth a'r dref. Mae bellach gennyf swydd ystadegydd yn yr adran Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rwy'n rhoi cyngor ac arweinyddiaeth o ran dylunio a dadansoddi rhaglenni ymchwil a gwerthuso cymhleth i gefnogi iechyd y boblogaeth. Bydd effaith ac effeithiolrwydd polisïau iechyd cyhoeddus ac ymyriadau yn gwella drwy ddefnyddio cofnodion iechyd electronig a gesglir yn rheolaidd a chymhwyso dulliau modelu mathemategol ac ystadegol i ddata mawr ym maes iechyd, gan arbed bywydau yn y pen draw.
MRes PROSESAU STOCASTIG: DAMCANIAETH A CHYMWYSO PhD MATHEMATEG
118
Made with FlippingBook - Online magazine maker