MEDDYGAETH (Complete University Guide 2021) UCHAF YN Y DU 10
CAMPWS PARC SINGLETON MEDDYGAETH A GOFAL IECHYD
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig cyfleoedd ôl-raddedig rhagorol ym meysydd meddygaeth a gofal iechyd gyda chyrsiau sy'n adeiladu ar ein cysylltiadau hirsefydlog â'r GIG yn y DU, gwasanaethau cymdeithasol a diwydiant. Mae ein staff ymchwil sy'n adnabyddus yn rhyngwladol yn gweithio'n barhaus i fynd i'r afael â'r heriau
sy'n wynebu'r system gofal iechyd ac mae ein staff addysgu yn weithgar o ran ymarfer ac ymchwil. Gyda'i gilydd, mae ganddynt brofiad proffesiynol cyfoethog gan gynnig cyfuniad dihafal o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd ymarferol. Mae ein hystafelloedd clinigol a'n labordai rhagorol yn paratoi ein myfyrwyr i ddatblygu i fod ymhlith y genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn raddedigion sy'n barod ar gyfer y gweithle ac sydd â rhagolygon gyrfa ardderchog.
• Prentisiaethau Clinigol, gan gynnwys wythnos o ymarfer nyrsio Gofynion mynediad Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am le ar y Rhaglen Meddygaeth – Mynediad i Raddedigion, rhaid eich bod wedi ennill, neu'n disgwyl ennill, y canlynol (neu gymwysterau cyfatebol) erbyn 31 Gorffennaf yn y flwyddyn rydych yn dymuno dechrau'r rhaglen: • Naill ai gradd ail ddosbarth uwch (2:1) neu ddosbarth cyntaf mewn unrhyw bwnc • Neu deilyngdod neu anrhydedd (sy'n cyfateb i 2:1 neu ddosbarth cyntaf) mewn gradd meistr israddedig integredig • Neu ail ddosbarth is (2:2) YN OGYSTAL Â gradd meistr ôl-raddedig neu PhD • A gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Chymraeg/Saesneg Os bydd gennych fwy nag un radd israddedig, ystyrir canlyniad y radd fwyaf diweddar. GAMSAT/MCAT Rhaid i bob ymgeisydd sefyll un o'r profion dethol canlynol ar gyfer ysgolion meddygaeth cyn gwneud cais: • Rhaid i ymgeiswyr o'r DU/UE sefyll prawf GAMSAT. Rhaid i chi gael sgôr GAMSAT o 50 o leiaf, ynghyd ag o leiaf 50 ym Mhapur 3 (Rhesymu mewn Gwyddorau Biolegol a ffisegol) er mwyn cael eich ystyried.
MEDDYGAETH – RHAGLENMYNEDIAD I RADDEDIGION MBBCh ALl Mae'r Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion (MBBCh) ym Mhrifysgol Abertawe yn un o grŵp bach o raglenni astudio meddygol tebyg yn y DU. Mae'n radd feddygol llwybr carlam pedair blynedd arloesol, cwbl integredig. Mae ganddi gwricwlwm meddygol integredig, sy'n golygu y caiff y gwyddorau biofeddygol sylfaenol eu dysgu yng nghyd-destun meddygaeth glinigol, iechyd cyhoeddus, patholeg, therapiwteg, moeseg a materion seicogymdeithasol wrth reoli cleifion. Bydd hyn, ynghyd â phwyslais mawr ar sgiliau clinigol a sgiliau cyfathrebu, yn sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i ymarfer meddygaeth yn gymwys ac yn hyderus. Nodweddion allweddol yn cynnwys: Mae'r cwrs yn cael budd o lefel uchel o gyswllt clinigol strwythuredig, gan gynnwys: • Cysylltiadau arbenigol, gan gynnwys llawfeddygaeth acíwt, meddygaeth acíwt, iechyd menywod, iechyd plant, iechyd meddwl, isarbenigeddau meddygaeth a llawfeddygaeth, ac eiddilwch. • Dewisol
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyllid ar gyfer graddau ymchwil
a graddau a addysgir. I gael manylion, ewch i
a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Rydym yn cydweithio'n agos â'n partneriaid yn y GIG ac mewn diwydiant i gynnig amgylchedd dysgu DPP bywiog ac arloesol er mwyn diwallu anghenion unigolion a busnesau gan ddilyn dull hyblyg o weithredu. I gael rhagor o fanylion, gweler: a bertawe.ac.uk/
dynolaciechyd/datblygiad- proffesiynol-yng-ngholeg-y- gwyddorau-dynol-ac-iechyd abertawe.ac.uk/y-brifysgol/ colegau/ysgol-feddygaeth- prifysgol-abertawe/dpd
• Dysgu yn y gymuned • Isddarlithyddiaeth Iau • Isddarlithyddiaeth Uwch, yn cysgodi meddygon F1
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
119
Made with FlippingBook - Online magazine maker