CAMPWS PARC SINGLETON MEDDYGAETH A GOFAL IECHYD
sydd â gradd uchel (2:1 anrhydedd neu uwch) mewn disgyblaeth anghysylltiedig ac a all gyflwyno tystiolaeth o brofiad gwaith perthnasol a gwerthoedd yn unol â chyfansoddiad y GIG ar sail unigol. Mae rhaid i bob ymgeisydd ddarparu datganiad personol sy'n dangos tystiolaeth o brofiad gofalu, dealltwriaeth o rôl Cydymaith Meddygol a'r rhinweddau personol ac academaidd sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs ac ymarfer yn y dyfodol. Cynigir cyfweliadau i ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r gofynion mynediad yn seiliedig ar eu datganiad personol. Mae unrhyw gynnig a wneir yn amodol, yn amodol ar dystiolaeth o gymwysterau, tystlythyrau boddhaol, Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) neu wiriad yr heddlu a chliriad iechyd galwedigaethol. ADDYSG AR GYFER Y PROFFESIYNAU IECHYD PGCert/PGDip/MA RhA Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n addysgu mewn lleoliadau academaidd neu glinigol ac sy'n awyddus i atgyfnerthu eu sgiliau. Bydd y rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o egwyddorion a gwerthoedd addysgol ac yn datblygu eich arbenigedd ym maes addysgu, asesu a goruchwylio. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio eich sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi hanfodol ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol. Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i ddod yn Aelod o'r Academi Addysgwyr Meddygol (AoME), ac yn Gymrawd neu'n Gymrawd Cyswllt o'r Academi Addysg Uwch (HEA).
Cynigir cyfweliadau i ymgeiswyr sy'n bodloni sgôr gymhwyso gyffredinol yn eu harholiad mynediad, a bennir bob blwyddyn pan fydd pob sgôr wedi dod i law. Mae pob cynnig a wneir yn amodol, yn dibynnu ar dystiolaeth o gymwysterau, geirdaon boddhaol, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad gan yr heddlu a chliriad iechyd galwedigaethol. Nid yw'r Rhaglen Meddygaeth - Mynediad i Raddedigion ar gael i fyfyrwyr sy'n trosglwyddo â chredydau o gyrsiau Meddygaeth eraill ond gall ymgeiswyr sydd wedi bod yn fyfyrwyr mewn ysgolion meddygaeth eraill wneud cais i ymuno â'r rhaglen o Flwyddyn 1, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion mynediad. Noder: Ar ddiwedd y cwrs hwn cewch eich gradd MBBCh (neu'r hyn sy'n cyfateb iddi), sy'n gymhwyster meddygol sylfaenol (PMQ). Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi ein graddedigion i ymarfer yn y DU a llawer o wledydd eraill. Cynghorir ymgeiswyr i sicrhau bod PMQ Prifysgol Abertawe yn cael ei gydnabod gan awdurdod safonau meddygol y wlad y maent yn dymuno ymarfer ynddi. Mae PMQ yn golygu y cewch gofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol dros dro, ar yr amod ei fod yn derbyn nad oes unrhyw bryderon Ffitrwydd i Ymarferydd y mae angen eu hystyried. Am ragor o wybodaeth, ewch i: abertawe.ac.uk/meddygaeth
ASTUDIAETHAU CYDYMAITH MEDDYGOL MSc ALl Bydd yr MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol, sy'n radd dwy flynedd integredig, yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau clinigol i lwyddo yn y Dystysgrif Arholi Genedlaethol a dechrau eich rôl gofal iechyd newydd. Drwy gydol eich gradd, cewch gyfleoedd i weithio'n effeithiol gyda chleifion, datblygu ystod o sgiliau ymarferol a sgiliau rhesymu, ac adlewyrchu ar ymarfer er mwyn nodi eich anghenion dysgu unigol. Mae mwy o alw am Gymdeithion Meddygol ledled y DU a bydd galw mawr am eich sgiliau a'ch cymhwyster gradd mewn amryw o leoliadau. Mae'r rhaglen hon, sy'n un o'r cyntaf o'i math yng Nghymru, wedi'i datblygu yn unol â chanllawiau'r weithlu gofal iechyd modern.Caiff y radd MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol ei chefnogi ar hyn o bryd drwy fwrsari gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, Llywodraeth er mwyn helpu i ddiwallu'r angen strategol am Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyflwyniad i Gyfraith a Moeseg Gofal Iechyd • Cyflwyniad i Gymdeithaseg a Seicoleg • Cyflwyniad i Ymchwil, Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth a Myfyrio • Sgiliau Clinigol • Sylfeini Meddygaeth Glinigol • Traethawd Hir Gofynion mynediad TGAU Mathemateg a Chymraeg/ Saesneg gradd C neu uwch (neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt), ac o leiaf 2:2 anrhydedd mewn disgyblaeth fiofeddygol neu gysylltiedig ag iechyd. Gellir ystyried ymgeiswyr mae 40 o leoedd a gyllidir ar y rhaglen hon bob blwyddyn.
Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe abertawe.ac.uk/meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd abertawe.ac.uk/dynolaciechyd
ALLWEDD
120
Made with FlippingBook - Online magazine maker