Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Addysgu a Dysgu ar gyfer Arwain Ymarfer Addysgwyr y Proffesiynau Iechyd • Asesu ac Adborth •Cynllunio a Gwerthuso eich Addysgu • Mentora a Goruchwylio • Traethawd Hir • Ymchwilio i Ymarfer Addysgol Mae modiwlau arbenigol opsiynol fel arfer yn cynnwys: • Addysg Seiliedig ar Dystiolaeth a Theori • Addysgu a Dysgu mewn Ymarfer • Arweinyddiaeth ar waith Gofynion mynediad Bydd angen gradd briodol neu'r hyn sy'n cyfateb iddi gan sefydliad cymeradwy (2:2 neu uwch yn ddelfrydol) a thystiolaeth o astudiaethau academaidd diweddar ar gyfer cymhwyster proffesiynol, ynghyd ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith a chyfrifoldebau perthnasol. Os ydych yn nyrs gofrestredig neu'n fydwraig sy'n ceisio cyflawni un o'r canlynol: statws Athro Ymarfer (Cam 3 o Safonau Cefnogi Dysgu ac Asesu mewn Ymarfer (SLAiP) yr NMC (2008)) neu Athro (Cam 4 o SLAiP yr NMC (2008)), bydd angen i chi allu dangos eu bod wedi meithrin eich gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ar ôl cofrestru h.y. eich bod wedi cofrestru a gweithio am o leiaf ddwy flynedd, ac wedi ennill cymwysterau ychwanegol a wnaiff gefnogi myfyrwyr (NMC 2008). ADDYSG FEDDYGOL PGCert/PGDip/ MSc ALl RhA ION Mae'r rhaglen amlddisgyblaethol hon yn addas i'r rhai sy'n gweithio ar hyn o bryd ym maes Addysg Feddygol neu sy'n gweithio tuag at rôl yn y maes hwnnw, gan gynnwys addysgwyr, meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
121
Made with FlippingBook - Online magazine maker