Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CAMPWS PARC SINGLETON MEDDYGAETH A GOFAL IECHYD

Bydd y cwrs, a gynlluniwyd i adlewyrchu'r rolau amrywiol ym maes Addysg Feddygol, yn cysylltu damcaniaeth addysg â'r ffordd y caiff ei defnyddio ym maes meddygaeth, gan ymchwilio i amrywiaeth o bynciau, o sgiliau addysgu ymarferol i arloesedd ac addysg feddygol ddigidol. Gellir manteisio ar gyfres o weithdai a sesiynau ymarferol yn yr Ysgol Feddygaeth a cheir cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau cymorth cyfoedion a dod i adnabod y gyfadran. Mae'r MSc mewn Addysg Feddygol yn cyd-fynd â Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPSF 2011) ar gyfer Addysg Uwch a Safonau'r Academi Addysgwyr Meddygol, sy'n fframweithiau cydnabyddedig ar gyfer Addysgu a Dysgu ardderchog yn y maes, a fframwaith cydnabod hyfforddwyr y GMC. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Addysg ar Sail Tystiolaeth • Addysgu, Dysgu ac Asesu • A rloesi a Thueddiadau mewn Addysg • Arweinyddiaeth mewn Ymarfer • D au Brosiect Ymchwil (Dim traethawd hir) • Dulliau Ymchwil mewn Addysg • Mentora a Goruchwylio • Y Sefydliad Dysgu, Grwpiau a Thimau Gofynion mynediad Fel arfer gradd anrhydedd 2:2 neu'r hyn sy'n cyfateb iddi. Dylai ymgeiswyr hefyd gyflwyno CV a datganiad personol i ddangos eu bwriad o ran addysgu, hyfforddiant, addysg, ymchwil, rheoli neu arwain ym maes Addysg Feddygol nawr ac yn y dyfodol.

ARWEINYDDIAETHARGYFERY PROFFESIYNAU IECHYDPGCert/PGDip /MSc RhA ION (DYSGU CYFUNOL)

DYFARNIAD YMARFER ARBENIGOL ASTUDIAETHAU IECHYD CYMUNEDOL MEWN NYRSIO ARDAL PGDip/MSc ALl RhA Nod y rhaglen hon yw paratoi nyrsys ardal i weithio'n annibynnol ac yn ymreolaethol mewn amgylchedd gymhleth sy'n newid yn gyflym, gan eich helpu i ddod yn un o arweinwyr ysbrydoledig y dyfodol, sy'n gweddnewid ymarfer ac yn cyfrannu at yr agenda gofal iechyd ehangach. Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd y sawl sydd wedi cofrestru'n gallu cyrraedd safonau'r NMC ar gyfer ymarfer arbenigol nyrsys ardal (SPDN) a chymhwyster V100 (nyrsys rhagnodi cymunedol). Mae 50% o'r cwrs yn waith ymarferol a 50% yn waith theori, a rhoddir pwyslais cryf ar y gydberthynas rhwng ymarfer a theori. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cymhwyso profiad o ragnodi gan nyrsys at faes ymarfer arbenigol • Datblygu arbenigedd clinigol ym maes Ymarfer Nyrs Ardal cyfoes • Gweithio mewn Ymarfer Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol • Rhagnodi gan Nyrsys ar gyfer Ymarferwyr Cymunedol (V100) • Sgiliau uwch ym maes rheoli ac arwain ar gyfer Ymarfer Nyrs Ardal • Traethawd hir ar ymarfer SPDN • Ymchwil a Datblygu mewn Ymarfer Nyrs Ardal (SPDN) Gofynion mynediad I wneud cais am le ar y cwrs hwn, rhaid eich bod wedi cofrestru â'r NMC ar ran 1 o'r gofrestr a meddu ar radd anrhydedd BSc/BA/BN neu gymhwyster cyfatebol. Rhaid i chi ddangos tystiolaeth o brofiad ar ôl

Mae'r rhaglen datblygu arweinyddiaeth aml-lefel, ryngbroffesiynol unigryw hon

wedi'i chynllunio'n bennaf ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio ym maes gofal, addysg, ymchwil neu reoli iechyd. Mae'r cwrs yn addas i feddygon (gan gynnwys meddygon dan hyfforddiant), nyrsys, staff academaidd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, ar bob cam o'u gyrfa gyda rôl arwain neu reoli neu sy'n dyheu am hynny. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur, gan gyfuno diwrnodau cyswllt wyneb yn wyneb a ategir gan ddysgu ar-lein a chymorth tiwtoriaid, mentoriaid a chyfoedion. Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol (FMLM). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • A rwain eich Hun ac Eraill yn Effeithiol • Arweinyddiaeth mewn ymarfer • D atblygiad Proffesiynol mewn ymarfer • Datblygu Arweinyddiaeth, Arloesedd a Newid • D eall Sefydliadau, Systemau a Gwasanaethau • P rosiect Portffolio sy'n Seiliedig ar eich Anghenion, eich Rôl a'ch Dyheadau eich Hun • Y Sefydliad Dysgu, Grwpiau a Thimau Gofynion mynediad Fel arfer, gradd anrhydedd 2:2 neu'r hyn sy'n cyfateb iddi mewn pwnc priodol.

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe abertawe.ac.uk/meddygaeth

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd abertawe.ac.uk/dynolaciechyd

ALLWEDD

122

Made with FlippingBook - Online magazine maker