cofrestru yn y maes ymarfer arbenigol a chadarnhad o unrhyw astudiaethau diweddar (e.e. modiwl datblygiad proffesiynol parhaus, a hynny o fewn y pum mlynedd diwethaf yn ddelfrydol). Bydd hefyd angen i chi gael gwiriad cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chyflwyno copïau o gymwysterau academaidd ac unrhyw ddogfennau eraill sy'n ofynnol gan yr adran derbyniadau, er mwyn eu gwirio yn ystod y broses ddethol. Os ydych yn ystyried trosglwyddo unrhyw ddysgu blaenorol, mae angen trawsgrifiad llawn o'r amlinelliad o fodiwlau yn y cyfweliad. GOFAL NEWYDDENEDIGOL UWCH PGCert RhA Bydd y rhaglen hon yn helpu staff sy'n gweithio yn y maes clinigol arbenigol hwn i ddatblygu ac atgyfnerthu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ymhellach. Byddwch yn dysgu'r sgiliau clinigol sydd eu hangen er mwyn diwallu anghenion iechyd a gofal cyfannol babanod sâl a babanod a gafodd eu geni'n gynnar gan gynnwys meysydd fel gwythïen- bigiadau a dadansoddi nwy gwaed, ac yn ymarfer y sgiliau hyn o dan oruchwyliaeth arbenigol. Ni yw'r unig brifysgol yng Nghymru sy'n cynnig y dystysgrif ôl-raddedig arbenigol hon. Mae modiwlau'n cynnwys: • Datblygu eich Ymarfer Clinigol Newyddenedigol • Gwella eich Ymarfer Newyddenedigol Uwch Gofynion mynediad Dylai fod gennych gymhwyster yn yr arbenigedd ynghyd â phrofiad o ofalu am fabanod newyddenedigol. Rhaid i chi fod yn gweithio gyda babanod newyddenedigol ar hyn o bryd, a dylai fod mentor clinigol addas ar gael i chi.
ôl-raddedig. Gellir dangos tystiolaeth o hyn drwy Ddyfarniad Ôl-gymhwyso perthnasol, er enghraifft. Os nad oes gennych radd, mae'n bosibl y bydd angen i chi gael cyfweliad. IECHYD CYHOEDDUS A HYBU IECHYDMSc ALl RhA ION Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i feithrin y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch i ddylanwadu ar bolisi iechyd a'i newid ar bob lefel. Byddwch yn astudio'r cefndir hanesyddol, datblygiadau presennol, a chyfeiriad posibl iechyd cyhoeddus a hybu iechyd yn y dyfodol, ochr yn ochr â safbwyntiau athronyddol a damcaniaethol allweddol. Caiff eich sgiliau ymchwil a dadansoddi eu mireinio wrth i chi asesu'r sail dystiolaeth dros ymyriadau iechyd cyhoeddus, a bydd lleoliad arsylwi yn rhoi profiad gwerthfawr i chi o gymhwyso damcaniaeth hybu iechyd yn y byd go iawn. Mae'r cwrs wedi'i fapio yn ôl y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, Fframwaith Gyrfaoedd Iechyd cyhoeddus. Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i wneud cais am statws ymarferydd cofrestredig a/neu arbenigwr ar Gofrestr Iechyd y Cyhoedd y DU. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Datblygu Rhaglenni a'u Gwerthuso • Epidemioleg a Thystiolaeth Iechyd Cyhoeddus • Moeseg Iechyd Cyhoeddus • Rheoli ac Arwain Ymarfer Iechyd Cyhoeddus • Sylfeini Hybu Iechyd • Sylfeini Ymchwil • Traethawd hir • Ymarfer Iechyd Cyhoeddus Gofynion mynediad Bydd angen gradd berthnasol 2:1 neu uwch arnoch. Fel arall, bydd angen cymhwyster cydnabyddedig cyfatebol a/neu ddwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol, gyda thystiolaeth o gyflawniadau addysgol/proffesiynol.
GWEITHIWR PROFFESIYNOL IECHYD MEDDWL CYMERADWY PGCert ALl Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau proffesiynol sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddod yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy yn gyfrifol am asesu person sydd ag anhwylder meddwl wrth ystyried yr angen i wneud cais iddo gael ei dderbyn yn ffurfiol i ysbyty seiciatrig. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Deall Iechyd Meddwl a Thrallod Meddwl Cymeradwy. Mae Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl • Penderfyniadau a Phartneriaethau Proffesiynol mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl • Polisi a'r Gyfraith mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl • Ymarfer Seiliedig ar Werthoedd a Phenderfyniadau Moesegol mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofynion mynediad I wneud cais am le ar y cwrs hwn, bydd angen i chi fod yn weithiwr cymdeithasol, yn nyrs, yn seicolegydd neu'n therapydd galwedigaethol mewn iechyd meddwl neu anableddau dysgu. Dylech fod wedi cofrestru â chorff proffesiynol, bod wedi cael o leiaf ddwy flynedd o brofiad ar ôl cymhwyso a meddu ar brofiad perthnasol o weithio gyda phobl ag anhwylderau meddwl. Bydd angen i chi gael eich cyflogi yn un o'r 16 Awdurdod Lleol yng Nghymru neu'r Byrddau Iechyd cysylltiedig. Cewch eich dewisir a chewch eich ariannu gan eich cyflogwr i hyfforddi i ymgymryd â rôl statudol AMHP. Rhaid bod gennych gefnogaeth eich cyflogwr a mynediad at gyfleoedd dysgu priodol. Mae angen gradd Baglor neu Feistr neu, mewn amgylchiadau eithriadol, lle na fodlonir y gofyniad academaidd hwn, rhaid i chi ddangos sut mae eich profiad a'ch cymwysterau yn eu galluogi i gwblhau astudiaethau
123
Made with FlippingBook - Online magazine maker