Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CAMPWS PARC SINGLETON MEDDYGAETH A GOFAL IECHYD

Ymweliadau Iechyd a bydd yn eich galluogi i gofrestru ar ran SCPHN o gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • D atblygiad Proffesiynol o ran Ymarfer Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) • D iogelu ym maes Ymarfer Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) • H wyluso Iechyd a Lles Unigolion a Theuluoedd (Ymwelwyr Iechyd) • H ybu Iechyd Cyhoeddus Poblogaethau • Hybu Lles Emosiynol Plant a Phobl Ifanc • Traethawd hir ar Ymarfer SCPHN • Y mchwil a Datblygu ym maes Ymarfer Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) NYRSIO IECHYD CYHOEDDUS CYMUNEDOL ARBENIGOL (YMWELIADAU IECHYD) GYDA V100 INTEGREDIG PGDip/MSc ALl RhA Bydd y rhaglen hon yn datblygu ymarferwyr Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol i weithio'n annibynnol mewn ystod o leoliadau cymunedol. Bydd y cwrs yn eich paratoi i weithio mewn lleoliadau cymhleth ac amrywiol gan gynnwys cartrefi, ysgolion a'r gymuned ehangach. Byddwch yn dod yn ymarferydd gwybodus â sgiliau rheoli a rhyngbersonol gwych. Os byddwch yn llwyddo i gwblhau'r rhaglen hon, byddwch yn ennill cymhwyster cofnodadwy Ymwelydd Iechyd Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol a chymhwyster V100 (nyrsys rhagnodi cymunedol). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Datblygiad Proffesiynol o ran Ymarfer Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN)

• Diogelu ym maes Ymarfer Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) • Hwyluso Iechyd a Lles Unigolion a Theuluoedd (Ymwelwyr Iechyd) • Hybu Iechyd Cyhoeddus Poblogaethau • Rhagnodi i Nyrsys ar gyfer Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Llyfr Fformiwlâu Cymunedol V100) • Traethawd hir ar Ymarfer SCPHN • Ymchwil a Datblygu ym maes Ymarfer Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) RHAGNODI ANFEDDYGOL I FFERYLLWYR PGCert RhA Bydd y rhaglen hon, sydd wedi'i hachredu gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPHC), yn eich gwneud yn gymwys i ymarfer yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol fel rhagnodwr anfeddygol annibynnol neu atodol. Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragnodi'n ddiogel ac yn briodol yn eich maes ymarfer. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Egwyddorion ac Ymarfer Ffarmacoleg • Rhagnodi Anfeddygol (GPHC) Gofynion mynediad Gallwch wneud cais am y cwrs hwn: • Os oes gennych gyllideb ragnodi • Os ydych yn bodloni gofynion mynediad penodol a bennir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (gweler isod) • Os ydych wedi cael eich cymeradwyo gan Reolwr Clinigol ac Arweinydd Rhagnodi'r Bwrdd Iechyd • O s oes gennych archwiliad cofnodion troseddol cyfredol i fodloni gofynion penodol y corff proffesiynol

• O s ydych wedi nodi ymarferydd meddygol dynodedig cymwys a phriodol • O s ydych yn dangos y gallu i astudio ar lefel academaidd 7. Nid yw'r rhaglen hon yn cydnabod dysgu blaenorol. Nid oes modd achredu rhan o fodiwl, waeth beth fo'ch profiad neu'ch dysgu blaenorol. Rhaid i fferyllwyr sy'n gwneud cais i ddilyn rhaglen ragnodi annibynnol fod wedi cofrestru â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu Gymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon a rhaid bod ganddynt o leiaf ddwy flynedd o brofiad priodol gyda chleifion mewn ysbyty, lleoliad cymunedol neu leoliad gofal sylfaenol yn y DU ar ôl eu blwyddyn cyn-gofrestru.

RHAGNODI ANFEDDYGOL I WEITHWYR PROFFESIYNOL

PERTHYNOL I IECHYD PGCert RhA Bydd y rhaglen hon, sydd wedi'i hachredu gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), yn eich gwneud yn gymwys i ymarfer yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol fel rhagnodwr anfeddygol annibynnol neu atodol. Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragnodi'n ddiogel ac yn briodol yn eich maes ymarfer. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Asesu Clinigol a Gwneud Penderfyniadau ym Maes Rhagnodi Anfeddygol (HCPC) • Egwyddorion ac Ymarfer Ffarmacoleg (HCPC) Gofynion mynediad Gallwch wneud cais am y cwrs hwn: • Os oes gennych gyllideb ragnodi • Os ydych yn bodloni gofynion mynediad penodol a bennir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (gweler isod)

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe abertawe.ac.uk/meddygaeth

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd abertawe.ac.uk/dynolaciechyd

ALLWEDD

126

Made with FlippingBook - Online magazine maker