Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CAMPWS PARC SINGLETON MEDDYGAETH A GOFAL IECHYD

eu hymarfer fel bydwragedd newydd gymhwyso cyn ceisio cyfleoedd ym maes addysg bellach. Caiff y rhan fwyaf o ymgeiswyr eu derbyn ar y cwrs astudio os bydd eu cyflogwr yn cytuno darparu cyllid neu absenoldeb astudio ond byddwn hefyd yn eich ystyried os byddwch yn dewis ariannu eich hunain ac astudio Mae hon yn rhaglen dysgu o bell hyblyg i ôl-raddedigion sydd wedi'i chynllunio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb arbennig mewn Diabetes. Ei nod yw darparu gwybodaeth sylfaenol a datblygedig, sgiliau clinigol a phrofiad i bontio'r bwlch mewn gwybodaeth ym maes gofal diabetes er mwyn diwallu anghenion iechyd a gofal pobl â diabetes, gan gynnwys cefnogi dulliau rheoli hunanofal yn effeithiol. Yn y rhaglen hon, gellir manteisio ar yr opsiwn i gyflawni portffolio seiliedig ar waith yn lle traethawd hir. Mae hwn yn gyfle unigryw i Weithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd adolygu, arfarnu a gwerthuso'r ffordd y maent yn cymhwyso eu gwybodaeth newydd yn eu hamgylchedd gwaith clinigol eu hunain. Ceir modiwl preswyl bob blwyddyn hefyd, sy'n cynnwys gweithdai sgiliau ymarferol a symposia siaradwyr gwadd. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: yn eich amser eich hunain. YMARFER DIABETES PGCert/ PGDip/MSc ALl RhA ION

Gofynion mynediad Bydd angen gradd 2.2 gan brifysgol neu gorff dyfarnu cydnabyddedig yn y DU, neu'r hyn sy'n cyfateb iddi. Byddwn hefyd yn ystyried cymwysterau proffesiynol mewn maes perthnasol neu o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol. TRALLWYSO CYDRANNAU GWAED PGCert RhA Bydd y rhaglen arloesol hon, sydd wedi'i chynllunio ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd anfeddygol, yn eich galluogi i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth i wneud y penderfyniad clinigol a rhoi'r cyfarwyddyd ysgrifenedig i drallwyso cyfansoddion gwaed i gleifion o fewn eich arbenigedd clinigol. Rydym wedi datblygu'r cwrs achrededig hwn sy'n seiliedig ar waith mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Gwaed Cymru ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi Polisi Cymru Gyfan ar awdurdodi trallwyso cydrannau gwaed yn anfeddygol. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Datblygu eich Ymarfer eich hun m maes Trallwyso Cydrannau Gwaed • Egwyddorion Ymarfer Diogel wrth Reoli Trallwysiadau Clinigol Gofynion mynediad Dylech feddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol a gweithio mewn maes lle mae angen clinigol wedi'i nodi. Dylai fod gennych o leiaf dair blynedd o brofiad ar ôl cofrestru yn eich maes clinigol arbenigol, gan ddod i gysylltiad â thrallwyso cyfansoddion gwaed yn aml. Dylai fod gennych gefnogaeth eich rheolwr llinell a bydd angen bod gennych fentor meddygol dynodedig sy'n gyfrifol am gefnogi eich dysgu seiliedig ar waith a'ch asesiadau.

YMARFER BYDWREIGIAETH PROFFESIYNOL UWCH PGCert/ PGDip/MSc RhA Bydd y rhaglen seiliedig ar waith hon yn gwella eich gwybodaeth, eich rhesymeg glinigol a'ch sgiliau gwneud penderfyniadau fel bydwraig. Mae'r cwrs modiwlaidd hwn yn hynod hyblyg ac yn cael ei arwain gan eich amcanion datblygu proffesiynol a'ch amcanion dysgu fel myfyriwr a bydwraig brysur. Byddwch yn astudio pynciau allweddol sy'n ymwneud â pholisi ac ymarfer ac yn mireinio eich sgiliau ymchwil a dadansoddi hanfodol mewn perthynas â bydwreigiaeth. Gyda chymorth mentor academaidd, byddwch hefyd yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Dechrau eich Datblygiad Proffesiynol • Portffolio Ymarfer Bydwreigiaeth Proffesiynol Mae modiwlau opsiynol fel arfer yn cynnwys: • Astudiaethau Proffesiynol ac Arweinyddiaeth ym Maes Bydwreigiaeth • Datblygu Arbenigedd ym Maes Goruchwylio Bydwragedd • Datblygu Arbenigedd ym Maes Goruchwylio Bydwragedd (DPP) • Datblygu eich Ymarfer eich Hun • Dylanwadau Polisi ar eich Ymarfer • Goruchwyliaeth Glinigol • Sut y Gallaf Newid Ymarfer ? • Ymarfer Proffesiynol ym Maes Iechyd Rhywiol ac Atgynhyrchiol Gofynion mynediad Mae'r cwrs hwn ar gyfer bydwragedd sydd wedi graddio ac sydd wedi cofrestru â'r NMC. Bydd y gofynion o ran profiad clinigol yn dibynnu ar yr unigolyn; ond, byddai disgwyl i'r rhan fwyaf o fydwragedd atgyfnerthu

• Cymhlethdodau Diabetes • Digwyddiadau Diabetes • Hanfodion Diabetes • Rheoli Diabetes • Sefyllfaoedd Diabetes • Traethawd Hir neu Bortffolio Seiliedig ar Waith

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe abertawe.ac.uk/meddygaeth

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd abertawe.ac.uk/dynolaciechyd

ALLWEDD

128

Made with FlippingBook - Online magazine maker