Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

Gofynion mynediad Fel arfer gradd anrhydedd 2:1 mewn pwnc perthnasol, a hynny'n ddelfrydol gyda phrofiad clinigol.

YMARFER PROFFESIYNOL UWCH MSc/PGDip/PGCert RhA Os ydych yn ymarferydd iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dysgu wrth weithio, mae'r rhaglen hon yn ffordd wych i chi gael cydnabyddiaeth academaidd ffurfiol am eich datblygiad proffesiynol. Mae'r cwrs modiwlaidd hwn yn hynod hyblyg ac yn cael ei arwain gan eich anghenion fel myfyriwr a gweithiwr proffesiynol prysur. Byddwch yn astudio pynciau allweddol sy'n ymwneud â pholisi ac ymarfer ac yn mireinio eich sgiliau ymchwil a dadansoddi hanfodol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda chymorth mentor academaidd, byddwch hefyd yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol. Mae modiwlau arbenigol opsiynol fel arfer yn cynnwys: • Addysgu a Dysgu mewn Ymarfer • Asesu eich Ymarfer Presennol • Datblygu eich Ymarfer eich Hun • Dechrau eich Datblygiad Proffesiynol • Dylanwadau Polisi ar eich Ymarfer • Rheoli ac Arwain Ymarfer Gofal Iechyd (Dysgu Seiliedig ar Waith) • Sut y Gall y Sail Dystiolaeth eich Helpu i Newid eich Ymarfer • Sut y Gallaf Newid Ymarfer ? Gofynion mynediad Bydd angen gradd briodol neu'r hyn sy'n cyfateb iddi gan sefydliad cymeradwy (2:2 neu uwch yn ddelfrydol) a thystiolaeth o astudiaethau academaidd diweddar a/neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Dylech fod yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a dylai fod gennych o leiaf ddwy flynedd o brofiad a phortffolio proffesiynol perthnasol.

YMARFER UWCH MEWN GOFAL IECHYD PGDip/MSc RhA Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd profiadol sydd am atgyfnerthu eu sgiliau a datblygu i lefel uwch. Byddwch yn meithrin sgiliau gwell ym meysydd asesu, diagnosteg a rheoli clefydau, ac yn cael cyfle i ymgymryd ag astudiaethau ar gyfer rhagnodi anfeddygol. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi hanfodol mewn perthynas ag ymarfer clinigol ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Anatomeg, Ffisioleg a Phathoffisioleg ar gyfer Ymarfer Clinigol Uwch • Diagnosis Clinigol a Rheoli Cleifion ar gyfer Ymarfer Uwch • Sgiliau Asesu Clinigol • Sylfeini Ymchwil Mae modiwlau arbenigol opsiynol fel arfer yn cynnwys:

YMARFER GOFAL IECHYD CYMUNEDOL A SYLFAENOL PGCert/PGDip/MSc RhA

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd wrth eu gwaith sy'n dymuno gwella eu harbenigedd o ran arweinyddiaeth, ymchwil ac addysg a bydd yn eich galluogi i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn eich gyrfa ac archwilio ymchwil ac ymarfer trawsddisgyblaethol arloesol i wella iechyd y cyhoedd. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi hanfodol mewn perthynas â pholisi ac ymarfer gofal iechyd ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Parhau â'ch Datblygiad Proffesiynol mewn Ymarfer Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol • Sylfeini Ymchwil • Traethawd hir Mae modiwlau arbenigol opsiynol fel arfer yn cynnwys: • Gweithio gydag Unigolion, Teuluoedd a Chymunedau mewn Ymarfer Gofal Iechyd Sylfaenol • Gweithio mewn Ymarfer Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol • Gweithio mewn Ymarfer Gofal Iechyd Meddwl Cymunedol a Sylfaenol Gofynion mynediad Dylai fod gennych radd anrhydedd ail ddosbarth (2:2) o leiaf, neu gymhwyster cydnabyddedig cyfatebol, a rhaid i chi fod yn ymarferydd cofrestredig sy'n gweithio mewn rôl yn y gymuned. Gall profiad perthnasol hefyd gael ei ystyried lle bo'n briodol.

• Asesu Clinigol a Gwneud Penderfyniadau ym maes Rhagnodi Anfeddygol • Egwyddorion ac Ymarfer Ffarmacoleg • Traethawd Hir Portffolio Ymarfer Uwch Gofynion mynediad

I wneud cais am le ar y cwrs hwn, mae angen i chi fod wedi cymhwyso ers o leiaf dair blynedd a meddu ar radd 2:2 yn y DU neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol. Efallai y gallwch gofrestru heb radd gyntaf a/neu efallai y bydd angen i chi ymgymryd ag astudiaethau rhagofynnol ar lefel 6. Cyn gwneud cais, mae angen i chi drafod a yw eich cyflogwyr yn fodlon cefnogi eich cais. Caiff y penderfyniad i'ch derbyn ar y cwrs ei wneud ar y cyd rhwng y Brifysgol a'ch cyflogwr a chaiff pob ymgeisydd ei gyfweld ar y cyd â'i briod fwrdd iechyd.

129

Made with FlippingBook - Online magazine maker