Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CAMPWS PARC SINGLETON MEDDYGAETH A GOFAL IECHYD

ECONOMEG IECHYDMSc drwy Ymchwil/MPhil /PhD ALl RhA

GWYDDOR IECHYDMPhil/ PhD ALl RhA Drwy gynllunio a chyflawni'r gwaith ymchwil biowyddonol sy'n rhoi'r sail dystiolaeth ar gyfer polisïau ac ymarfer iechyd, mae ein hymchwilwyr yn helpu i wella gwasanaethau i gleifion ac ymarferwyr. Ar hyn o bryd mae myfyrwyr yn archwilio nodweddion gwrthffyngaidd secretiadau cynrhon a nodweddion gwrthficrobaidd infertebratau, ac effeithiau ffisiolegol rhaglen adsefydlu cardiaidd ar gleifion cnawdychiad myocardaidd yn Kuwait. IECHYD CYHOEDDUS MPhil/ PhD ALl RhA Drwy roi sail dystiolaeth drwy waith ymchwilio empirig, archwilio a gwerthuso, mae ein hymchwil yn cyfrannu at welliannau ar bob lefel ym maes polisi ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Mae prosiectau ymchwil diweddar gan ein myfyrwyr yn cynnwys effaith pecyn addysg strwythuredig ar wybodaeth ac ymarfer nyrsys mewn achosion Hepatitis B a Hepatitis C yn Sawdi-Arabia, a dealltwriaeth ymwelwyr iechyd o egwyddor 'dylanwadu ar bolisïau sy'n effeithio ar iechyd'.

Mae economeg iechyd yn greiddiol i arloesi, asesu technoleg iechyd, blaenoriaethu a chyllidebu rhaglenni yn y GIG yn y DU ac yn fyd-eang. Mae PhD neu MPhil mewn Economeg Iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) yn cynnig cyfle gwych i wneud cyfraniad gwreiddiol i ddatblygu a chymhwyso ymchwil ym maes economeg iechyd a chanlyniadau i faterion go iawn sy'n ymwneud â pholisi a darparu gofal iechyd. Byddwch yn datblygu sgiliau ym maes gwaith dadansoddi a dulliau economeg iechyd craidd ac yn cyflawni eich prosiect ymchwil eich hun, a gefnogir gan raglen oruchwylio a hyfforddiant a gaiff ei theilwra'n arbennig i chi. Gall hyn gynnwys datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn agweddau ar ddefnyddio epidemioleg, dadansoddi data arferol ac ymchwil feintiol yn ogystal â chymhwyso dadansoddiadau economeg iechyd fel rhan o asesiadau o dechnoleg iechyd, iechyd cyhoeddus a

DYNIAETHAU IECHYDMPhil/ PhD ALl RhA

gwerthuso ymyriadau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cymhwyso cysyniadau a dulliau gweithredu hanes, llenyddiaeth a'r celfyddydau gweledol wrth ddadansoddi iechyd a gofal iechyd. Mae hanes anabledd yn faes arbenigol penodol, gyda hanes llafar pobl y mae'r cyffur, thalidomid, wedi effeithio arnynt ar waith ar hyn o bryd. Mae prosiectau ymchwil diweddar gan fyfyrwyr yn cynnwys ymchwil i naratifau rhoi genedigaeth

Mae gennym arbenigedd penodol ym maes blaenoriaethu a dylunio, defnyddio a dehongli canlyniadau a nodir gan gleifion.

i ddelweddau o anabledd yn llenyddiaeth Saesneg Cymru wedi'r rhyfel.

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe abertawe.ac.uk/meddygaeth

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd abertawe.ac.uk/dynolaciechyd

ALLWEDD

130

Made with FlippingBook - Online magazine maker