IECHYD A LLES MSc drwy Ymchwil ALl RhA
RHEOLI GOFAL IECHYDMPhil/ PhD ALl RhA Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r cyfle i chi ddilyn eich diddordeb personol neu broffesiynol eich hun ym maes arwain a gwella gwasanaethau iechyd, sut maent yn rhoi triniaeth i bobl â salwch corfforol a meddyliol, a sut y gallant helpu i wella iechyd drwy ymyriadau wedi'u targedu. Mae prosiectau ymchwil diweddar gan fyfyrwyr Rheoli Gofal Iechyd yn cynnwys ymchwil i gynnwys y cleifion a'r cyhoedd, diogelwch data mewn systemau gwybodaeth, a dulliau gwell o werthuso gwariant cyfalaf mawr mewn gofal iechyd. SEICOLEG IECHYDMPhil/ PhD ALl RhA Mae pwysigrwydd ffactorau seicolegol wrth hybu iechyd da a rheoli salwch a risgiau iechyd yn faes astudio cynyddol bwysig. Mae myfyrwyr ymchwil wrthi'n edrych ar y ffactorau seicolegol sy'n hybu iechyd da, a datblygu ymyriadau er mwyn annog plant, pobl ifanc a merched beichiog i fyw bywyd iach.
NYRSIOMPhil/PhD ALl RhA Gan ganolbwyntio'n glir ar drosi theori academaidd yn ganlyniadau ymarferol cadarnhaol i ymarferwyr, cleifion a gofalwyr, mae ein hymchwil nyrsio o'r radd flaenaf yn edrych ar amrywiaeth eang o faterion o weithio proffesiynol a gofal cleifion, i ddatblygu triniaethau ac ymyriadau newydd. Ar hyn o bryd mae ein myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau sy'n cynnwys profiadau emosiynol nyrsys plant sy'n gofalu am blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, a gofal myfyrwyr nyrsio tuag at gleifion gordew. POLISI IECHYDMPhil/PhD ALl RhA Mae ein gwaith ymchwil, sy'n edrych ar brosesau gwneud penderfyniadau yn y gwasanaethau iechyd yn y DU a thramor, yn cefnogi newidiadau polisi sy'n gwella canlyniadau i gleifion ac ymarferwyr gofal iechyd. Mae gennym arbenigedd penodol ym maes cyllid a chontractau gwasanaeth, astudiaethau gweithredu polisi, systemau ansawdd a chynnwys y cyhoedd. Mae prosiectau ymchwil diweddar gan ein myfyrwyr yn cynnwys diwygiadau prynwyr darparwyr, cynllunio'r system yswiriant iechyd gwladol, sector yswiriant meddygol preifat y DU, a chynnwys cleifion a'r cyhoedd.
Mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol y DU yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Er hynny, mae'n hanfodol ein bod yn archwilio technolegau newydd a dull o weithio i sicrhau bod y safonau gofal yr ydym wedi dod i'w disgwyl yn cael eu cynnal. Mae'r cwrs hon yn rhoi'r cyfle i chi ddilyn eich diddordebau ymchwil personol neu broffesiynol eich hun yn y maes eang hwn, sy'n cwmpasu meysydd polisi mor amrywiol ag iechyd, addysg, tai, anabledd, trosedd, tlodi, a'r teulu. Cyniga’r cyfle chymhwyso ymchwil canlyniadau i faterion bywyd go iawn wrth ddarparu polisi a gofal iechyd. IECHYDMEDDWLMPhil/PhD ALl RhA Er mwyn datblygu a gwerthuso gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu pobl ar adegau anoddaf eu bywyd, rhaid cael ymchwil o safon uchel. Bydd astudio am PhD mewn Iechyd Meddwl yn rhoi'r cyfle i chi ddilyn eich diddordebau ymchwil personol neu broffesiynol eich hun yn y maes pwysig hwn, gan rhagorol i wneud cyfraniad gwreiddiol at ddatblygu a gyfrannu at ffyrdd newydd o feddwl am ofal, gwasanaethau a pholisïau iechyd meddwl. Ar hyn o bryd mae myfyrwyr yn edrych ar ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn iechyd meddwl (yn enwedig gwasanaethau ymyriadau cynnar), cydlynu gofal mewn gofal iechyd meddwl fforensig a dylanwad cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau wrth ddatblygu rôl broffesiynol.
131
Made with FlippingBook - Online magazine maker