• Dulliau Rhifiadol ar gyfer Hafaliadau Gwahaniaethol Rhannol • Dynameg a Dadansoddi Dros Dro • Entrepreneuriaeth i Beirianwyr • Mecaneg Continwwm • Mecaneg Continwwm Aflinol • Mecaneg Hylifau Uwch • Modelu ac Efelychu Cronfeydd D ŵ r • Rhyngweithio Strwythurau Hylifau • Sgiliau Cyfathrebu mewn Iaith Dramor (Almaeneg/Ffrangeg/ Sbaeneg) NANOWYDDONIAETH I NANODECHNOLEGMSc ALl RhA Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu ystod eang o bynciau, o'r dechnoleg llunio lled-ddargludyddion ddiweddaraf i gymwysiadau biolegol a meddygol, gyda'r pwyslais drwyddo draw ar nodweddu a rheoli defnyddiau ar raddfa nano. Ym Mhrifysgol Abertawe, cewch fudd o gyfleusterau'r Ganolfan Nanoiechyd gwerth £22 miliwn a'r Ganolfan Defnyddiau Lled- ddargludo Integreiddiol newydd gwerth £30 miliwn sy'n cynnwys ystafell lân o'r radd flaenaf a chyfleusterau llunio a nodweddu arloesol. Caiff y cwrs hwn ei achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Bio-Nanodechnoleg • Cynllunio Prosiect Strategol • Efelychu ar Raddfa Nano • Egwyddorion Nanofeddygaeth • Electroneg Bwlch Band Eang • Gwyddor Coloidau a Rhyngwynebau • Nanodechnoleg Feddal • Stilio ar Raddfa Nano • Strwythurau a Dyfeisiau Nanoraddfa • Systemau Electro-Fecanyddol Micro a Nano
datblygiadau diweddar mewn electroneg p ŵ er. Caiff y cwrs hwn ei achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Astudiaeth Achos Cyfrifiadurol • Dadansoddiadau a Deddfwriaeth Amgylcheddol • Dyfeisiau Lled-ddargludo P ŵ er • Electroneg Bwlch Band Eang • Gyriannau ac Electroneg P ŵ er Uwch • Labordy Ynni ac Electroneg P ŵ er • Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Peirianwyr Ymchwil • Systemau Cynhyrchu P ŵ er • Systemau P ŵ er Uwch • Systemau Rheoli Modern PEIRIANNEG DEFNYDDIAUMSc ALl RhA Mae Peirianneg Defnyddiau yn sail i bob cymhwysiad peirianyddol bron. Mae gan Brifysgol Abertawe gryfderau ymchwil allweddol ym maes defnyddiau ar gyfer cymwysiadau awyrofod, technoleg dur a defnyddiau ffotofoltäig, ac mae wedi sefydlu cydweithrediadau ymchwil hirsefydlog â rhai o'r sefydliadau amlwladol mwyaf ym maes defnyddiau. Bydd myfyrwyr yn meithrin y wybodaeth a'r gallu i fodloni gofynion diwydiant defnyddiau rhyngwladol. Mae'r cwrs yn darparu hyfforddiant a phrofiad mewn ystod eang o bynciau gan gynnwys: defnyddiau awyrofod datblygedig, technoleg dur ddatblygedig, cerameg, polymerau a chyfansoddion, dethol defnyddiau, dulliau modern o ddylunio a dadansoddi peirianneg, y gydberthynas strwythur-prosesu- priodweddau mewn defnyddiau, ac egwyddorion rheoli busnes
PEIRIANNEG AWYROFOD MSc ALl RhA ION Mae'r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y broses o ddylunio, dadansoddi, profi a hedfan yr ystod lawn o gerbydau awyrennol, gan gynnwys gleiderau, hofrenyddion ac awyrennau a yrrir gan bropelorau a jetiau. Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn ennill profiad ymarferol drwy gael defnyddio un o efelychwyr hedfan peirianyddol mwyaf datblygedig y byd, a gedwir yn y Coleg Peirianneg. Caiff y cwrs ei achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE), y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (RAeS), a Sefydliad y Dylunwyr Peirianyddol (IED). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Aerodynameg Uwch • Cyfanrwydd Strwythurol Metelau Awyrofod • Dadansoddiadau Cyfrifiadurol Elfennau Meidraidd • Defnyddiau Cyfansawdd • Dulliau Rhifiadol ar gyfer Hafaliadau Gwahaniaethol Rhannol • Dynameg a Rheolaeth Hediadau • Strwythur Fframiau Awyr Uwch PEIRIANNEG B Ŵ ER AC YNNI CYNALIADWYMSc ALl RhA Mae gan y Coleg Peirianneg enw da rhyngwladol am ymchwil drydanol ac electroneg i ynni a defnyddiau a dyfeisiau lled-ddargludo uwch. Mae'r cwrs Peirianneg B ŵ er ac Ynni Cynaliadwy yn rhoi pwyslais cadarn ar ddyfeisiau a thechnolegau lled-ddargludo o'r radd flaenaf, ynghyd â gyriannau ac electroneg p ŵ er uwch, a systemau p ŵ er uwch. Mae'r cwrs hefyd yn cwmpasu technolegau cynhyrchu ynni confensiynol ac adnewyddadwy. Caiff datblygiadau newydd cyffrous, fel electroneg bwlch band eang, cynaeafu ynni, celloedd solar a biodanwydd eu trafod ac amlygir
133
Made with FlippingBook - Online magazine maker