PEIRIANNEG CAMPWS Y BAE
modern. Caiff y cwrs hwn ei achredu gan y Sefydliad Defnyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cerameg • Cynllunio Prosiect Strategol • Dadansoddiadau a Deddfwriaeth Amgylcheddol • Defnyddiau Cyfansawdd • Dylunio Cynnyrch ar sail Efelychu • Gweithgynhyrchu Ychwanegol • Meteleg Ffisegol Dur • Peirianneg Defnyddiau Awyrofod • Polymerau: Nodweddion a Dyluniad • Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Peirianwyr Ymchwil PEIRIANNEG ELECTRONIG A THRYDANOL MSc ALl RhA Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill gradd israddedig ym maes Peirianneg Byddwch yn meithrin sgiliau arbenigol sy'n gyson â diddordebau ymchwil y Coleg Peirianneg ac sy'n adlewyrchu anghenion y diwydiant electroneg. Byddwch yn gallu defnyddio cyfarpar o safon diwydiant, fel microsgop twnelu sganio ar gyfer gwaith stilio ar raddfa atomaidd neu ddadansoddwr paramedr hp4124 ar gyfer dyfeisiau trydanol a ddefnyddir at ddibenion efelychu, gweithredu a chyfathrebu. Caiff y cwrs hwn ei achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyfathrebu Diwifr • Cyfathrebu Optegol • Dyfeisiau Lled-ddargludo P ŵ er • Electroneg Bwlch Band Eang • Gyriannau ac Electroneg P ŵ er Uwch Drydanol neu ddisgyblaeth beirianyddol neu wyddonol berthnasol debyg.
• Labordy Electronig Ynni a Ph ŵ er • RF a Microdonnau • Strwythurau a Dyfeisiau Nanoraddfa • Systemau P ŵ er Uwch • Systemau Rheoli Modern PEIRIANNEG FECANYDDOL MSc ALl RhA ION Mae'r rhaglen ysgogol a gwobrwyol hon ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes wedi ennill gradd israddedig ac sydd am feithrin eu gwybodaeth ymhellach. Bydd yn galluogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y ffordd fwyaf priodol o ddatrys amrywiaeth o broblemau peirianneg fecanyddol, gan sicrhau bod gan raddedigion ragolygon gyrfa ardderchog. Mae'r cwrs yn cwmpasu datblygu adnoddau, dulliau a thechnegau peirianneg fecanyddol er mwyn datrys problemau, y gallu i lunio cynrychiolaeth ddigonol o setiau o ddata arbrofol a'r defnydd o'r adnoddau a'r technegau hyn yn y byd go iawn. Mae'r prosiect ymchwil yn hynod berthnasol i'r diwydiant. Caiff y cwrs hwn ei achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cynllunio Prosiect Strategol • Dylunio Cynnyrch ar sail Efelychu • Entrepreneuriaeth i Beirianwyr • Gweithgynhyrchu Ychwanegol • Mecaneg Hylifau Thermo Uwch • Mecaneg Solet Uwch • Meteleg ac Optimeiddio Prosesau • Monitro, Rheoli, Dibynadwyedd, Goroesoldeb, Cyfanrwydd a Chynnal a Chadw Systemau • Optimeiddio • Prosesu Polymer
PEIRIANNEGGEMEGOL MSc ALl ION Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i fod yn addas i raddedigion sydd â diddordeb mewn ymchwil ar lefel uwch a/neu yrfa yn y sector peirianneg prosesau. Mae'r cwrs yn ymhelaethu ar bynciau a gaiff eu hastudio ar lefel baglor fel arfer, gan ganolbwyntio ar themâu peirianneg prosesau pwysig, megis prosesau gwahanu, systemau hylif, trosglwyddo màs a phriodweddau defnyddiau, gyda phwyslais cryf ar dechnolegau prosesu d ŵ r ac agweddau datblygedig ar gynllunio ac efelychu prosesau. Fel myfyriwr ar y cwrs meistr mewn Peirianneg Gemegol, cewch gyfle i ddatblygu eich gwybodaeth dechnegol drwy astudio modiwlau sy'n seiliedig ar ddarlithoedd, a datblygu cymwyseddau dadansoddi beirniadol ymhellach drwy waith ymchwil unigol a phrosiectau dylunio mewn grŵp . Mae'r cwrs wedi'i achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Cemegol (IChemE). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cludo Llygryddion drwy Lifau D ŵ r Daear • Dadansoddiadau a Deddfwriaeth Amgylcheddol • Dihalwyno • Egwyddorion Nanofeddygaeth • Entrepreneuriaeth i Beirianwyr • Hylifau Cymhleth a Rheoleg • Peirianneg D ŵ r a D ŵ r Gwastraff • Polymerau: Nodweddion a Dyluniad • Strwythurau a Dyfeisiau Nanoraddfa • Technoleg Pilen
134
Made with FlippingBook - Online magazine maker