MEDDYL IAU MAWR
CADEIRYDD PEIRIANNEG DEFNYDDIAU A PHENNAETH SEFYDL IAD YMCHWI L GWEITHGYNHYRCHU'R DYFODOL
Wrth fynychu’r Brifysgol y mae pobl ifanc yn dysgu sut i feddwl yn annibynnol, pennu sail eu gwybodaeth, a meithrin y sgiliau dadansoddol a ddefnyddir ganddynt yn eu bywydau proffesiynol. “
Ymchwil amlddisgyblaethol arloesol ar gyfer atebion amgylcheddol gynaliadwy i'r her ynni fyd-eang. Dros y blynyddoedd, mae’r Athro Margadonna wedi meithrin gwybodaeth a sgiliau mewn nifer o feysydd gwyddonol amhrisiadwy o ran dylunio a chynhyrchu defnyddiau deallus newydd, drwy gemeg, ffiseg mater cywasgedig a pheirianneg proses. Mae gwaith yr Athro Margadonna, a benodwyd yn Gadeirydd Peirianneg Defnyddiau, wedi’i ysbrydoli gan y sylweddoliad syml bod datblygiadau mawr mewn technoleg fodern bob amser yn cael eu llywio gan argaeledd defnyddiau sydd â nifer o swyddogaethau a all weithredu am gyfnodau gwahanol, mewn amodau anodd fel pwysedd/tymheredd eithafol ac mewn amgylcheddau llym iawn. Dywedodd yr Athro Margadonna: “Mae gofynion perfformiad defnyddiau yn fwyfwy heriol ac yn gofyn am ymchwil wirioneddol amlddisgyblaethol.” Mae ei dull gweithredu amlddisgyblaethol wedi esgor ar nifer o ddatblygiadau mawr sydd wedi cael eu cydnabod gan ei chymheiriaid, fel y dangosir gan nifer o gyhoeddiadau effaith fawr, nifer y dyfyniadau a gwobrau rhyngwladol. Mae ymchwil gyfredol yr Athro Margadonna yn canolbwyntio ar ddefnyddiau newydd a thechnolegau proses sy’n gysylltiedig â chynhyrchu ynni, cludiant a storio. Ei gweledigaeth yw cyfrannu at yr her ynni fyd-eang drwy ddatblygu datrysiadau cynaliadwy yn amgylcheddol sy’n gost effeithlon. Mae Serena wedi ymrwymo i gynnig profiad addysgu a hyfforddi rhagorol. Dywedodd: “Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf bob amser wedi credu’n gryf mai trosglwyddo gwybodaeth ac addysg o ansawdd uchel yw’r allwedd i wella safon bywyd cenedlaethau’r dyfodol.
135
Made with FlippingBook - Online magazine maker