PEIRIANNEG CAMPWS Y BAE
ymchwil a hyfforddiant rhyngwladol allweddol mewn mecaneg gyfrifiadurol a pheirianneg. Gan ddefnyddio modelu mathemategol fel sail, mae dulliau gweithredu cyfrifiadurol yn darparu gweithdrefnau sydd, gyda chymorth cyfrifiadur, yn helpu i ddatrys problemau cymhleth. Mae'r cwrs hwn yn darparu sail gadarn mewn modelu cyfrifiadurol a'r dull elfen feidraidd yn arbennig, ac mae'n defnyddio arbenigedd staff academaidd i ddarparu hyfforddiant ôl-raddedig o ansawdd uchel. Caiff y cwrs hwn ei achredu gan JBM. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Dadansoddiadau Cyfrifiadurol Elfennau Meidraidd • Dulliau Rhifiadol ar gyfer Hafaliadau Gwahaniaethol Rhannol • Dynameg a Dadansoddi Dros Dro • Mecaneg Continwwm Aflinol • Mecaneg Hylifau Uwch • Mecaneg Solet • Modelu ac Efelychu Cronfeydd D ŵ r • Plastigrwydd Cyfrifiadurol • Rhyngweithio Strwythurau Hylifau • Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Peirianwyr Ymchwil PEIRIANNEG SIFIL MSc ALl ION Mae'r cwrs yn darparu hyfforddiant ym maes dadansoddi a dylunio peirianneg sifil, yn enwedig technegau modelu a dadansoddi. Cewch brofiad cyfrifiadurol ymarferol drwy'r defnydd o dechnegau cyfrifiadurol, gan ddefnyddio meddalwedd fodern, er mwyn cynnig datrysiad i amrywiaeth o gymwysiadau peirianneg sifil ymarferol cyfredol gan eich galluogi i weithredu'n hyderus mewn cyd-destun diwydiannol. Caiff y cwrs
hwn ei achredu gan Gyd-fwrdd y Cymedrolwyr (JBM). Mae JBM yn cynnwys Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (IStructE), Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth (CIHT), Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd (IHE), a’r Permanent Way Institution (PWI). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Dadansoddi Strwythurol Uwch • Dadansoddiadau Cyfrifiadurol Elfennau Meidraidd • Dulliau Rhifiadol ar gyfer Hafaliadau Gwahaniaethol Rhannol • Dynameg a Dadansoddi Dros Dro • Entrepreneuriaeth i Beirianwyr • Modelu ac Efelychu Cronfeydd D ŵ r • Plastigrwydd Cyfrifiadurol • Prosesau a Pheirianneg Arfordirol • Rheoli Perygl Llifogydd • Rhyngweithio Strwythurau Hylifau PEIRIANNEG STRWYTHUROL MSc ALl Bydd myfyrwyr ar y cwrs MSc mewn Peirianneg Strwythurol yn meithrin gwybodaeth fanwl ac yn cael profiad o syniadau a thechnegau confensiynol ac arloesol er mwyn eu galluogi i ddatblygu datrysiadau cadarn i broblemau ym maes peirianneg strwythurol. Bydd y cwrs yn cwmpasu natur amrywiol peirianneg strwythurol drwy integreiddio gwybodaeth o feysydd mecaneg, defnyddiau, dadansoddi strwythurol a dylunio strwythurol. Bydd y rhaglen hefyd yn edrych ar y duedd dechnegol ddiweddaraf ym maes Peirianneg Sifil a Strwythurol gan gynnwys sgiliau modelu cyfrifiadurol uwch a bydd yn ymdrin yn fras â'r heriau technegol sy'n codi mewn gwaith seilwaith mawr a'r datrysiadau.
PEIRIANNEG GYFATHREBU MSc ALl RhA Ar y cwrs hwn byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o dechnoleg a seilwaith cyfathrebu cyfrifiadurol, ffotoneg a rhwydweithiau telathrebu, telathrebu diwifr a thechnolegau gwybodaeth diwifr cysylltiedig. Mae'r cwrs yn cynnwys elfen hanfodol systemau cyfathrebu optegol modern yn seiliedig ar ffibrau optegol modd unigol o'r craidd i'r mynediad, gan werthuso dulliau gweithredu cyfoes lledband-gyfoethog. Cewch eich cyflwyno i dechnolegau sy'n sail i gywasgu a darlledu fideo digidol dros lwyfannau rhwydweithio, gan feithrin gwybodaeth am y modelau sianel a'r diffygion cysylltiedig sydd fel arfer yn cyfyngu ar berfformiad systemau di-wifr. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddylunio derbynyddion cyfathrebu digidol optimwm ar gyfer rhai modelau sianel cyfathrebu sylfaenol. Caiff y cwrs hwn ei achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyfathrebu Ffibr Optegol • Cynllunio Prosiect Strategol • Entrepreneuriaeth i Beirianwyr • Laserau a Chymwysiadau • RF a Microdonnau • Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Peirianwyr Ymchwil • Signalau a Systemau • Systemau Electro-Fecanyddol Micro a Nano PEIRIANNEGGYFRIFIADUROL MSc ALl RhA Rydym wedi bod ar flaen y gad ym maes ymchwil gyfrifiadurol ers cryn dipyn o amser, ac rydym wedi datblygu proffil rhyngwladol sylweddol fel un o'r canolfannau • Cyfathrebu Digidol • Cyfathrebu Diwifr
136
Made with FlippingBook - Online magazine maker