Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

IECHYD Y CYHOEDD UCHAF YN Y BYD 150

PLANT A PHOBL IFANC CAMPWS PARC SINGLETON

Mae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn sicrhau buddiannau gwirioneddol i ofal iechyd, gofal cymdeithasol, y sector gwirfoddol a'r sector preifat, gan arwain yn y pen draw at welliannau i blant, rhieni, ymarferwyr, rheolwyr a llunwyr polisïau. Mae gan ein staff academaidd gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o rwydweithiau rhyngwladol ac adrannau tebyg mewn prifysgolion yn Ewrop ac ym mhedwar ban byd, felly caiff eich dysgu

(Academic Ranking of World Universities, ARWU 2020)

ei lywio gan y datblygiadau diweddaraf mewn polisi ac ymarfer. Maent yn hwyluso gwaith ymchwil a gwerthuso manwl o adeg geni i fod yn oedolyn ifanc, a'r thema ganolog yw iechyd a lles. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), barnwyd bod dros 75% o'n hymchwil o ansawdd rhyngwladol neu o'r radd flaenaf.

ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD PGCert/PGDip/MA ALl RhA Bydd y rhaglen hon yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gefnogi plant a'u teuluoedd mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o faterion sy'n ymwneud â datblygiad plant mewn cymdeithas gyfoes a'r ffordd y caiff polisïau a gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd eu cynllunio a'u darparu. Drwy gydol eichastudiaethau, byddwch yn mireinio sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi hanfodol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol. Mae modiwlau craidd fel arfer yn cynnwys: • Deall ac Arsylwi ar Ddatblygiad Plant • Hawliau Plant a Diogelu Plant a Phobl Ifanc • Plentyndod a Phlant: Persbectifau Cymdeithasegol • Traethawd Hir • Ymchwilio i Blentyndod Mae modiwlau opsiynol fel arfer yn cynnwys: • Gwaith Therapiwtig gyda Phlant • Maeth a Thwf yn ystod Plentyndod • Mathau Cyffredin o Salwch yn ystod Plentyndod

CHWARAE DATBLYGIADOL A THERAPIWTIG PGCert/PGDip/MA ALl RhA Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle cyffrous i feithrin dealltwriaeth ddatblygedig o'r ffordd mae plant yn dysgu ac yn datblygu drwy chwarae. Byddwch yn archwilio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn chwarae mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol, gan gyfuno gwaith theori manwl â phrofiad o waith maes. Mae hyn yn cynnwys y ffordd mae'r amgylchedd a rhyngweithio cymdeithasol yn cefnogi cyfres gynyddol plant o sgiliau chwarae, gyda phwyslais arbennig ar werth cynhenid profiadau chwarae hunangyfeiriedig plant. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi hanfodol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Deall ac Arsylwi ar Ddatblygiad Plant • Gwaith Therapiwtig gyda Phlant

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyllid ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• Safbwyntiau ar Chwarae • Theori ac Ymarfer Chwarae • Traethawd Hir ar Chwarae • Ymchwilio i Blentyndod

• Safbwyntiau ar Chwarae • Ymarfer Uwch gyda Phlant

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

139

Made with FlippingBook - Online magazine maker