Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

RHEOLI BUSNES CAMPWS Y BAE

27 AIN

YN Y DU

ANSAWDD YMCHWIL (The Complete University Guide 2019)

Mae ein rhaglenni busnes a addysgir wedi'u cynllunio i wella eich cyflogadwyedd, gan eich rhoi mewn cysylltiad â thîm o gynghorwyr gyrfaoedd yn yr Ysgol Reolaeth. Rydym wedi datblygu'r rhaglenni MSc Rheoli ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir gradd israddedig, gydag addysgu ymarferol a arweinir gan ymchwil gan dîm o arbenigwyr yn y diwydiant.

Daw ein cymuned ffyniannus o fyfyrwyr ôl-raddedig o bob cwr o'r byd a chaiff ein myfyrwyr fudd o'r ffaith bod yr Ysgol wedi'i chyd-leoli â'r diwydiant ar Gampws arloesol y Bae, lle ceir gofod addysgu penodedig ac ystafelloedd astudio ôl-raddedig, cyfleusterau TG helaeth sydd â'r galedwedd ddiweddaraf ac amrywiaeth o feddalwedd arbenigol.

fyd-eang, cyllid a rheoli adnoddau dynol er mwyn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig. Mae'r MSc Rheoli ar gael fel rhaglen gyffredinol, sy'n rhoi'r rhyddid i chi ddewis o amrywiaeth o fodiwlau opsiynol yn eich ail dymor. Mae'r radd hon hefyd ar gael gyda llwybrau penodol sy'n eich galluogi i arbenigo yn ystod yr ail dymor a bydd yn ymddangos ar eich tystysgrif gradd derfynol. Y llwybrau sydd ar gael yw: •  Cyllid – ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn yr agweddau ariannol ar reoli • Dadansoddeg Fusnes – sydd wedi'i gynllunio i feithrin dealltwriaeth myfyrwyr o'r elfennau dynamig o'r byd busnes a lywir gan ddata • Entrepreneuriaeth ac Arloesi – ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn nynameg dechrau eu busnes eu hunain GWYBODAETH Mae'r llwybr Twristiaeth yn cynnwys taith astudio am dâl ychwanegol. Ewch i dudalennau gwe'r cwrs isod i gael rhagor o wybodaeth gyfredol. Nid yw ar gael yn rhan amser.

• Marchnata – canolbwyntio ar yr heriau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau marchnata byd-eang • Rheoli Adnoddau Dynol – canolbwyntio ar yr heriau sy'n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithlu byd-eang • Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwadau – canolbwyntio ar reoli gweithrediadau byd-eang a rhwydweithiau cyflenwi • Rheoli Rhyngwladol – ystyried ymarfer rheoli cyfoes mewn cyd-destun byd-eang • Twristiaeth – canolbwyntio ar gysyniadau a nodweddion twristiaeth mewn perthynas â busnes, rheoli a'r gwyddorau cymdeithasol Gallwch newid llwybr hyd at ddiwedd y tymor cyntaf felly gallwch roi cynnig ar wahanol feysydd o reoli cyn dewis arbenigedd terfynol (dylai myfyrwyr sydd am ddewis yr opsiwn hwn gofrestru ar yr MSc Rheoli cyffredinol i ddechrau).

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

RHEOLI MSc ALl RhA ION Caiff y rhaglen blwyddyn o hyd hon ei chynnig fel cwrs trosi i reoli, a gall gael ei hastudio gan fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth israddedig. Mae'n cwmpasu cysyniadau rheoli craidd fel marchnata rhyngwladol, rheoli gweithrediadau, strategaeth amrywiaeth o gyfleoedd cyllido ar gael ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn fwy na pharod i gynnig cymorth ariannol i sêr mwyaf disglair y dyfodol. Nid dim ond rhagoriaeth academaidd a wobrwywn – rydym hefyd yn cydnabod ac yn annog angerdd dros astudio a chyfrannu at fywyd myfyrwyr. Mae

MAE'R ACHREDIADAU'N CYNNWYS:

AELODAETH:

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

142

Made with FlippingBook - Online magazine maker