Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

Mae rhywbeth yn arbennig am Abertawe, ac roedd fy ffrindiau a oedd yn astudio mewn sefydliadau eraill yn genfigennus. Roedd penderfynu cwblhau gradd meistr mewn pwnc a oedd yn llwyr wahanol i fy ngradd israddedig yn her i'w chroesawu, a gwnes i fwynhau pob munud ohoni. Mae gan y Brifysgol enw da iawn am astudio ôl-raddedig a chefais brofiad ohono ar ei orau. Roedd y darlithwyr yn rhagorol ac yn mynd yr ail filltir i fy nghefnogi yn eu hamser rhydd; gyda'u cefnogaeth, teimlaf fod fy hyder wedi tyfu ddengwaith yn fwy. Roedd y modiwlau ar gyfer fy ngradd meistr yn hynod gyffrous i mi hefyd – roeddent yn cyd-fynd yn dda â gyrfa mewn Adnoddau Dynol ar lefel ymarferol ac roedd modd i mi weld sut byddai pob modiwl yn gymwys i'r byd gwaith. Rwy'n hyderus y bydd fy ngradd meistr o Brifysgol Abertawe yn gwahaniaethu rhyngof a'r ymgeiswyr eraill wrth wneud cais am swyddi a rhaglenni hyfforddi ôl-raddedigion.

MSc RHEOLI Rheoli Adnoddau Dynol (HRM)

(Yn 2019, enillodd Amy swydd yn Bosch UK fel Graddedig dan Hyfforddiant ar y Rhaglen Rheolwr Iau)

143

Made with FlippingBook - Online magazine maker