RHEOLI TWRISTIAETH RYNGWLADOL CAMPWS Y BAE
Mae’r sector teithio a thwristiaeth yn parhau i dyfu’n gynt na’r economi gyffredinol. Yn ogystal â’r buddion economaidd mae’n eu cynnig, gall twristiaeth gyfrannu hefyd at welliannau amgylcheddol ac ansawdd bywyd gwell. Ar yr un pryd, cysylltir twristiaeth yn gynyddol ag amrywiaeth o heriau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol. Yn seiliedig ar yr egwyddorion sy’n sylfaen i Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, bydd rhaglen MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol Prifysgol Abertawe yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i werthuso dyfodol y diwydiant twristiaeth yn feirniadol, boed yn y DU neu dramor. Gan gyfuno cysyniadau allweddol o feysydd busnes, rheoli a’r gwyddorau cymdeithasol ac enghreifftiau byd-eang, bydd y rhaglen yn eich paratoi i eirioli dros fathau mwy cyfrifol o dwristiaeth yn lleol, yn rhyngwladol ac yn fyd-eang.
RHEOLI TWRISTIAETH RYNGWLADOL MSc FT Os hoffech ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau uwch i wneud penderfyniadau hollbwysig sy’n dylanwadu ar ddyfodol y diwydiant twristiaeth yn lleol ac yn rhyngwladol, mae ein MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn berffaith i chi. Mae’r rhaglen MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn cynnwys Taith Astudio Twristiaeth orfodol a chodir tâl ychwanegol am hon. Mae teithiau blaenorol wedi cynnwys ymweliadau â Chwisgi Penderyn – distyllfa chwisgi premiwm, stadiwm
rygbi’r Scarlets a thaith i Nepal. Amcan teithiau maes yw helpu myfyrwyr i ddeall cymhlethdodau a gofynion rheoli cyrchfan twristiaeth. Ewch i dudalennau gwe’r cwrs am yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys: • Cyd-destun Byd-eang Twristiaeth • Cynllunio a Pholisi Twristiaeth • Marchnata Profiadau Twristiaeth • Twristiaeth Ddigidol
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Mae’r Ysgol Reolaeth hefyd yn cynnig Ysgoloriaeth Datblygu Dyfodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig (rhaglenni a addysgir) sydd wedi derbyn cynnig i astudio yn yr Ysgol Reolaeth. Mae’r ysgoloriaeth yn werth £3,000 am un flwyddyn academaidd a chaiff y cyfanswm ei ddidynnu’n awtomatig o ffioedd dysgu’r deiliad. abertawe.ac.uk/ysgol-reolaeth/ ysgoloriaeth-datblygu-dyfodol
AELODAETH:
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
145
Made with FlippingBook - Online magazine maker