Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

RHYFEL A CHYMDEITHAS CAMPWS PARC SINGLETON

YN Y DU EFFAITH YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 7 FED

Mae rhyfel wedi bod yn gyfrwng grymus newid drwy hanes. Mae'n peri dioddefaint a diraddio ofnadwy, ond eto mae'n esgor ar ddewrder anhygoel ac yn ysbrydoli gwaith celf gwych. Mae'r rhaglen hon yn gofyn cwestiynau hollbwysig am wrthdaro, cymdeithas, rhyfel, diwylliant a gwleidyddiaeth. Ai gweithgaredd diwylliannol neu wleidyddol yw rhyfel?

A all rhesymeg heddwch arwain at resymeg rhyfel? I ba raddau y mae technoleg yn pennu pwy sy'n ennill mewn rhyfel fodern? A oes byth achos o blaid ‘rhyfel cyfiawn’? Beth yw profiad pobl gyffredin o ryfel, a beth yw'r ymatebion diwylliannol ac artistig i ryfel? Ymhlith ein diddordebau ymchwil mae milwreiddio cymdeithas a diwylliant, cyfreithiau a moeseg rhyfel, y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, Rhyfel Cartref Sbaen, ac ailadeiladu yn dilyn rhyfel.

i drafod timau goruchwylio a phynciau posibl. Mae cysylltiad agos rhwng rhaglen MA mewn Rhyfel a Chymdeithas a chryfderau ymchwil staff academaidd sy'n Gwrthdaro a Diogelwch (ISCAS). Mae ei aelodau yn cyflawni ymchwil o'r radd flaenaf ym meysydd gwrthdaro a diogelwch, yr ymerodraeth ac ôl-wladychiaeth, gwrthdaro a datblygu, y rhyfel 'digidol', a rhyfel a diwylliant. Mae ISCAS hefyd yn ceisio hyrwyddo cydweithredu rhwng ysgolheigion, llunwyr polisi a darparwyr diwylliannol. Fel myfyriwr ymchwil Rhyfel a Chymdeithas, fe fyddwch yn perthyn i'r Ganolfan Graddedigion yng Ngholeg y Celfyddydau a'r cyfrannu at grŵp ymchwil Astudiaethau Rhyngwladol, Dyniaethau. Mae'r Ganolfan yn darparu cymorth bugeiliol yn ogystal â chymorth gweinyddol ac mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth ym maes sgiliau ymchwil, a hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i gymuned ymchwil ôl-raddedig y Coleg o 200 o fyfyrwyr.

Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyflwyniad i Astudiaethau Canoloesol Uwch • Diogelwch Critigol • Ffasgiaeth a Diwylliant

• Hawliau Dynol ac Ymyriad Dyngarol • Rhyfel, Diwylliant a Hunaniaeth • Rhyfel, Technoleg a Chymdeithas • Rhyfel Digidol • Trais, Gwrthdaro a Datblygu • Terfysgaeth, Gwrthdaro a'r Cyfryngau

RHYFEL A CHYMDEITHASMA ALl RhA Mae'r MA mewn Rhyfel a Chymdeithas yn radd ryngddisgyblaethol uwch sydd wrth groestoriad hanes, astudiaethau'r cof, gwyddor wleidyddol, ac astudiaethau strategaeth. Fel rhan o'r Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol, mae Rhyfel a Chymdeithas yn defnyddio cryfder hanes, astudiaethau americanaidd, y clasuron, hanes yr henfyd ac YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael.  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

RHYFEL A CHYMDEITHAS MA drwy Ymchwil ALl RhA Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr sydd am wneud ymchwil lefel graddedig. Anogir darpar fyfyrwyr MA a'r rhai sydd â diddordeb yn y cwrs MPhil/PhD, i gysylltu â chyfarwyddwr ymchwil ôl-raddedig Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol, Dr Dennis Schmidt – (d.r.schmidt@abertawe.ac.uk)

eifftoleg, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, yn ogystal â llenyddiaeth a'r cyfryngau a chyfathrebu.

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

146

Made with FlippingBook - Online magazine maker