Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

TROSEDDEG CAMPWS PARC SINGLETON

YMCHWIL O SAFON RYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 96 %

Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn gymuned academaidd ac ymchwil fywiog, sy'n datblygu'n barhaus er mwyn sicrhau bod ein graddedigion mewn sefyllfa i ateb yr heriau a wynebir mewn tirweddau troseddeg a chyfiawnder troseddol sy'n newid yn barhaus.

Fel myfyriwr ôl-raddedig, byddwch yn astudio ystod gyffrous o fodiwlau sy'n torri tir newydd, gyda chymorth academyddion sydd â phrofiad gwirioneddol ar flaen y gad yn eu meysydd ymchwil. Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â heriau mawr mewn cymdeithas, yn cael effaith, ac yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas. Rydym wedi meithrin arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd arbenigol gan gynnwys hawliau plant, seiberdroseddu, adsefydlu troseddwyr, astudiaethau rhywioldeb, terfysgaeth a chyfiawnder ieuenctid.

CYFIAWNDER TROSEDDOL CYMHWYSOL A THROSEDDEGMA ALl RhA Mae’r cwrs gradd MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg yn galluogi myfyrwyr i ddarganfod sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithredu yn ymarferol, dysgu damcaniaethau allweddol ac archwilio themâu cyfoes blaengar ym maes troseddeg. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau hanfodol megis dysgu sut i gynnal ymchwil droseddeg. Mae’r addysgu ar y cwrs gradd Meistr yn amlddisgyblaethol a chaiff ei lywio gan ddiddordebau maes ymchwil y staff. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cam-drin Rhywiol a Chamfanteisio ar Blant • Datblygu Ymchwil Droseddol • Dealltwriaeth Feirniadol o Blismona • M asnachu mewn Pobl a Chaethwasiaeth Fodern • Materion Datblygedig ym Meysydd Cyffuriau, Alcohol a Chyfraith Droseddol • Pobl Ifanc a Chyfiawnder Ieuenctid

SEIBERDROSEDDU A THERFYSGAETH MA ALl RhA Mae'r MA mewn Seiberdroseddu a Terfysgaeth yn gwrs rhyngddisgyblaethol, sy'n tynnu ar wyddoniaeth wleidyddol, seicoleg, troseddeg, y gyfraith a hanes i ymgysylltu'n feirniadol â throseddu ar-lein a therfysgaeth. Trwy gydol y cwrs hwn byddwch yn dysgu am y bygythiadau, tueddiadau, materion, ymatebion a chwestiynau moesegol sy'n gysylltiedig â therfysgaeth a seiberdroseddu. Mae'r staff yn ymchwilwyr profiadol yn y meysydd hyn ac mae cyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â'u hymchwil wreiddiol fel rhan o'u traethodau terfynol. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Dulliau Ymchwil a Moeseg • G wrthweithio Eithafiaeth Dreisgar Ar-lein • H awliau Dynol a Terfysgaeth Ar-lein • Plismona Digidol • P ropaganda Ar-lein a Radicaleiddio

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• T erfysgaeth Gyfoes mewn Cyd-destun Hanesyddol ac Athronyddol • Trosedd yn y Seiberofod

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

150

Made with FlippingBook - Online magazine maker