Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

TROSEDDEG CAMPWS PARC SINGLETON

Ymunwch â'n cymuned ffyniannus o fyfyrwyr ôl-raddedig, lle y byddwch yn rhan o amgylchedd cefnogol sy'n ymroddedig i ddeall rhai o faterion mwyaf heriol cymdeithas. Mae gradd ymchwil mewn Troseddeg yn cynnig cyfle i chi gyflawni prosiect sy'n seiliedig ar eich hoffterau a'ch diddordebau, gan arwain at gymhwyster sy'n gallu agor y drws i yrfa academaidd neu wella eich rhagolygon cyflogaeth mewn amrywiaeth o feysydd eraill.

TROSEDDEGMPhil/PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr y mae eu diddordebau'n cyfateb i'n meysydd arbenigedd, sy'n cynnwys: • Cyfiawnder Ieuenctid • Gwaith Rhyw a Rhywioldeb • Hawliau Dynol a Pholisi Cyffuriau • Hawliau Plant • Mewnfudo a Lloches • Seiberdroseddu a Therfysgaeth Efallai yr hoffech hefyd edrych ar ein hopsiynau PhD yn y Gyfraith. Gweler tudalen 97 am ragor o wybodaeth.

RHAGOLYGON GYRFA Gallwch wella eich CV drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cyflogaeth yn yr Ysgol neu ar draws y Brifysgol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn ystod eang o yrfaoedd mewn asiantaethau cyfiawnder troseddol, gan gynnwys y Swyddfa Gartref, timau troseddwyr ifanc, a'r Gwasanaeth Prawf. Mae graddedigion hefyd wedi cael swyddi o fewn llywodraeth leol a Llywodraeth y DU, ac yn y trydydd sector. CANOLFAN HYFFORDDIANT DOETHUROL CYMRU ESRC Fel rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC, mae'r Adran yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant ôl-raddedig ardderchog. Darparwn gymysgedd o hyfforddiant ymchwil cyffredinol a hyfforddiant ymchwil pwnc-benodol sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso dulliau ymholi troseddegol.

152

Made with FlippingBook - Online magazine maker