MEWN CYSYLLTIAD
Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn sicrhau y gallwch gadw cysylltiad agos â’r Brifysgol ymhell ar ôl i swˆ n y cymeradwyo yn eich seremoni raddio bylu. Mae ein holl raddedigion yn dod yn aelodau oes yn awtomatig o’r Gymdeithas, cymuned gynnes a chroesawgar o raddedigion sy’n cael eu huno gan eu profiad o astudio yn Abertawe. Mae’r Gymdeithas yn rhwydwaith bywiog o 80,000 o aelodau gweithgar sy’n gweithio ar bob lefel mewn diwydiant, masnach, chwaraeon, a’r sector cyhoeddus.
Mae rhai yn arwain adrannau cwmnïau rhyngwladol, ond mae eraill yr un mor debygol o reoli’r busnesau llai a mentrus sy’n ysgogi’r economi, neu’n darparu gofal iechyd mewn ysbytai, neu’n addysgu mewn ysgolion. Y mae hefyd cymuned gynyddol fawr o gyn-fyfyrwyr rhyngwladol, sy’n golygu y byddwch yn dod o hyd i gyfeillion a chydweithwyr o’r un anian lle bynnag ewch chi yn y byd. Gwnewch y gorau o’r rhwydwaith hwn. Pwy a wˆ yr pa ddrysau allai agor i chi yn y DU neu dramor o ganlyniad i’r perthnasoedd a grëwyd trwy fod yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe. Cadw mewn cysyllstiad: swanseauniconnect.com
A YDYCH CHI’N GYN- FYFYRIWR PRIFYSGOL ABERTAWE?
Mae ein cyn-fyfyrwyr yn helpu i lunio a mireinio ein cyrsiau ac mae eich adborth yn bwysig i ni. Darganfyddwch fwy a chymryd rhan yn yr arolwg Canlyniadau Graddedigion cenedlaethol a chadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol yma:
abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ graddedigion-newydd/ hynt-graddedigion
Mae ein cyn-fyfyrwyr yn cynnwys: • Alun-Wyn Jones , chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a’r Llewod • Andy Hopper CBE FRS , cyd-sefydlydd Acorn Computers Ltd • Annabelle Apsion , actor • Anne Boden , Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Banc Starling • Carol Robinson , Llywydd y Gymdeithas Cemeg Frenhinol • Christina Macfarlane , Cysylltwr Chwaraeon a Newyddion ar gyfer CNN Rhyngwladol • Jason Mohammad , cyflwynydd teledu • John Maidens , Awdur/Cyfarwyddwr, Holby City, Casualty, Doctors
• L ana Haddad , COO Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol • Liam Dutton , Cyflwynydd y Tywydd ar Channel 4 • Liz Johnson , nofiwr ac enillydd medal aur yn y Gemau Paralympaidd • Dr Lyn Evans CBE , Arweinydd Prosiect, Large Hadron Collider, CERN • Richey Edwards and Nicky Wire , cerddorion, Manic Street Preachers • Sir Terry Matthews OBE , biliwnydd cyntaf Cymru • Sylvia Heal MP , Dirprwy Siaradwr Tˆy’r Cyffredin (2000-10)
abertawe.ac.uk/ cyn-fyfyrwyr
Prifysgol Abertawe Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr
SwansAlumni
@Swansea_Alumni
DI LYNWCH NI :
155
Made with FlippingBook - Online magazine maker