FFIOEDD AC
Rydym yn ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol mewn addysg ôl-raddedig. Yn 2019/20 roedd dros £8 miliwn mewn ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i astudio cyrsiau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein hysgoloriaethau meistr ar gael ar draws yr holl Golegau ac Ysgolion academaidd ac yn cael eu hysbysebu trwy gydol y flwyddyn, gan gynnig cyllid i fyfyrwyr y DU, yr UE a Rhyngwladol.
DULLIAU ARIANNU Yn ogystal â’r ysgoloriaethau a’r bwrsariaethau y mae Prifysgol Abertawe yn eu darparu, gall ôl-raddedigion gael arian gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, cynghorau ymchwil, diwydiant ac elusennau. Mae llawer o fyfyrwyr ôl-raddedig yn ariannu eu hastudiaethau drwy ‘arian portffolio’, gan gasglu arian o amrywiaeth o ffynonellau. Mae enghreifftiau o’r mathau o arian sydd ar gael yn cynnwys: BENTHYCIADAU I ÔL-RADDEDIGION Mae cyllid ôl-raddedig y llywodraeth ar gael i bob myfyriwr sy’n byw yn y DU a’r UE sy’n astudio cyrsiau lefel meistr a PhD mewn prifysgol yn y DU. Mae’r dull o gymhwyso a’r swm y gallech ei dderbyn yn dibynnu ar eich gwlad breswyl. Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ffioedd-ac-ariannu/ benthyciadau-ol-raddedig
YSGOLORIAETHAU MEISTR PRIFYSGOL ABERTAWE Ar gael i fyfyrwyr o’r DU/UE sy’n awyddus i astudio rhaglenni lefel Meistr llawn amser neu ran amser. Yn 2020, roedd pob dyfarniad yn werth £5,000 tuag at ffioedd (pro rata ar gyfer rhan amser). *Manylion ar gyfer ariannu 2021 i’w cadarnhau.
FFIOEDD DYSGU Caiff ffioedd dysgu eu pennu yn ôl eich blwyddyn astudio, y math o gwrs rydych yn ymgymryd ag ef a’ch gwlad breswyl. Gofynnir i chi dalu eich ffioedd, neu ddangos tystiolaeth o nawdd, cyn cofrestru neu yn ystod y broses gofrestru. Gallwch ddod o hyd i fanylion am ffioedd dysgu pob cwrs ar ein gwefan: abertawe.ac.uk/ol-raddedig Mae ffioedd dysgu yn destun codiadau blynyddol a chyhoeddir y cyfraddau newydd ar ein gwefan cyn gynted ag y byddant ar gael. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer eich rhaglen benodol, cysylltwch â’r Swyddfa Cyllid Myfyrwyr ar: +44 (0)1792 602700 studentfinance@abertawe.ac.uk Sylwer bod angen talu ‘ffi fainc’ o £1,000 yn ogystal â’r ffi ddysgu ar gyfer y rhaglen MRes yn y Biowyddorau.
YSGOLORIAETHAU’R RHAGLEN YMCHWIL
Gellir dod o hyd i ysgoloriaethau ymchwil yn Abertawe drwy ddilyn y ddolen isod. (Noder y caiff y dudalen hon o’r wefan ei diweddaru drwy gydol y flwyddyn.) abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau/ysgoloriaethau- ymchwil- Caiff manylion ynghylch sut i gyflwyno cais am ysgoloriaeth eu rhestru ar bob hysbyseb unigol. YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU COLEGAU/ YSGOLION AC ADRANNAU Mae llawer o’n Colegau a’n Hysgolion academaidd hefyd yn cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau ychwanegol ar gyfer rhaglenni a addysgir a rhaglenni ymchwil.
156
Made with FlippingBook - Online magazine maker