Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CYNORTHWYO UNIGOLION SY’N GADAEL GOFAL Rydym yn gweinyddu ac yn darparu’r Pecyn Cynorthwyo i Bobl sy’n Gadael Gofal, sef amrywiaeth gynhwysfawr o fesurau er mwyn helpu pobl sy’n gadael gofal i ymgartrefu ac i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau. Gall myfyrwyr ôl-raddedig cymwys dderbyn bwrsariaeth Gadael Gofal ôl-raddedig sy’n daliad untro y cwrs. GWOBR CYFLE PRIFYSGOL ABERTAWE Ar ôl cofrestru, gall myfyrwyr y DU a’r UE wneud cais i Wobr Cyfle Prifysgol Abertawe. Bwriad y wobr yw cefnogi myfyrwyr trwy unrhyw amgylchiadau ariannol annisgwyl neu anodd tra byddant yn y Brifysgol. Bydd pob cais yn cael ei ystyried a’i asesu ar sail unigol, gyda’r cyfrinachedd llymaf gan ein cynghorwyr arbenigol. BWRSARIAETH MEISTR STEMM LLYWODRAETH CYMRU Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru i astudio graddau Meistr yng Nghymru. Mae’r Bwrsariaeth gwerth £2,000 yr un tuag at ffioedd dysgu ar gyfer graddedigion sy’n aros yng Nghymru neu’n dychwelyd i Gymru i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, neu bynciau ‘STEMM’.

BWRSARIAETH MEISTR LLYWODRAETH CYMRU AR GYFER 60+ Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru sy’n 60 oed a hyˆn i wneud eu gradd meistr yng Nghymru. Mae pob bwrsariaeth werth £4,000 tuag at y ffioedd dysgu. BWRSARIAETH MEISTR CYFRWNG CYMRAEG LLYWODRAETH CYMRU Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru i astudio graddau Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Bwrsariaeth gwerth £1,000 yr un ac ar gael ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio gradd Meistr a addysgir gwerth 180 credyd llawn ac sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. YSGOLORIAETH GOFFA HYWEL TEIFI Mae Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi sy’n werth £3,000 ar gael ar gyfer myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio gradd Meistr trwy Ymchwil, MPhil neu PhD mewn maes yn ymwneud â chyfraniad y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards i ddysg a diwylliant Cymru, e.e. y Gymraeg, y Cyfryngau, Gwleidyddiaeth neu Hanes. Ewch i dudalennau Academi Hywel Teifi ar wefan y Brifysgol am fanylion am sut i wneud cais.

Caiff ysgoloriaethau a bwrsariaethau eu cynnig drwy gydol y flwyddyn a byddwn yn eu hysbysebu ar ein gwefan. Gallwch sicrhau eich bod ymhlith y cyntaf i gael gwybod am y cyfleoedd ariannu a gynigir gennym drwy edrych ar: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau ELUSENNAU, SEFYDLIADAU AC YMDDIRIEDOLAETHAU Mae nifer fawr o elusennau, sefydliadau ac ymddiriedolaethau yn dyfarnu arian i gefnogi astudiaethau ôl-raddedig. Gellir cael manylion yn The Grants Register (a gyhoeddir gan Palgrave Macmillan) a The Directory of Grant Making Trusts (a gyhoeddir gan y Sefydliad Cymorth Elusennau), y dylai’r ddau ohonynt fod ar gael o wasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol a’ch llyfrgell leol. ENILLWCH TRA BYDDWCH YN DYSGU Mae digon o swyddi rhan amser ar gael yn Abertawe a’r ardal leol, ac mae gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe wybodaeth am amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer gwaith dros dro a gwaith rhan-amser, yn ogystal â lleoliadau haf ac interniaethau. Am ragor o wybodaeth, ewch i:

 abertawe.ac.uk/dawn/ hysbysebwch-eich-swyddi

CYNGOR A CHYMORTH ARIANNOL Mae’r Tîm Arian@BywydCampws yn cynnig arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr, gan gynnwys: • Grantiau, benthyciadau, bwrsariaethau a budd-daliadau lles • Eich helpu i reoli eich arian • Cynorthwyo unigolion sy’n gadael gofal • Cronfeydd caledi • Eich helpu i lunio cyllideb realistig • Cyngor ar ddyledion +44 (0)1792 606699 money.campuslife@abertawe.ac.uk

157

Made with FlippingBook - Online magazine maker