Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

SUT I

CEISIADAU AM GYRSIAU GRADD YMCHWIL Er mwyn sicrhau bod digon o amser i staff academaidd ystyried eich cais a bodloni amodau cynnig posib a gofynion teithio/adleoli, rydym yn argymell y caiff ceisiadau eu gwneud cyn y dyddiadau a amlinellwyd isod. Sylwer ei bod hi’n bosib gwneud cais y tu hwnt i’r dyddiadau a awgrymwyd isod ond ei bod hi’n bosib y bydd angen symud eich cais/cynnig posib i’r ffenestr dderbyn briodol nesaf. Cofrestru ym mis Hydref • Ymgeiswyr o’r DU – 15 Awst Cofrestru ym mis Ionawr • Ymgeiswyr o’r DU – 15 Tachwedd Cofrestru ym mis Ebrill • Ymgeiswyr y DU – 15 Chwefror Ni fydd angen cynnal cyfweliad fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni. Os bydd angen cynnal cyfweliad, cewch eich hysbysu o ddiben a fformat y cyfweliad gan y Coleg/Ysgol er mwyn i chi wybod beth i’w ddisgwyl a pha ran y mae’r cyfweliad yn ei chwarae yn y broses ddethol gyffredinol. Mae rhai rhaglenni (gan gynnwys MA mewn Ysgrifennu Creadigol) yn gofyn i ymgeiswyr ddarparu gwaith ysgrifenedig ychwanegol i ategu cais. Cofrestru ym mis Gorffennaf • Ymgeiswyr y DU – 15 Mai CYFWELIADAU

Y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithlon o wneud cais am un o’n rhaglenni ôl-raddedig yw gwneud cais ar-lein. Drwy wneud hyn, gallwch hefyd olrhain eich cais yn ystod pob cam o’r broses. abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ sut-i-wneud-cais Cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyn os byddai’n well gennych gwblhau cais papur: +44 (0)1792 295358 astudio@abertawe.ac.uk Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn: • Sicrhau eich bod yn bodloni ein gofynion mynediad academaidd a’n gofynion anacademaidd (os yw’n briodol) • Cadarnhau eich bod yn meddu ar y profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i astudio’r pwnc. • Edrych am dystiolaeth o’ch ymrwymiad a’ch cymhelliant, ac ystyried eich cyflawniadau. • Ystyried eich geirdaon. CEISIADAU AM RADD MEISTR A ADDYSGIR Unwaith y byddwn wedi derbyn yr holl ddogfennaeth ategol angenrheidiol, byddwn yn anelu at eich hysbysu o’n penderfyniad (neu anfon gwahoddiad i chi ddod am gyfweliad) o fewn 9 diwrnod gwaith o’r dyddiad y byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cais.

Ar ôl ystyried eich cais, cewch wybod y canlynol: • Ein bod yn bwriadu cynnig lle i chi • Ein bod yn bwriadu eich gwahodd am gyfweliad • Ni allwn gynnig lle i chi Byddwch naill ai’n derbyn cynnig amodol neu gynnig diamod gennym, neu byddwn yn rhoi gwybod i chi na allwn gynnig lle i chi. Byddwn yn eich hysbysu o’n penderfyniad drwy neges e-bost. Noder mai dim ond Swyddfa Dderbyn y Brifysgol sy’n gwneud cynigion ffurfiol, yn dilyn argymhellion gan yr adran academaidd berthnasol. Bydd eich llythyr cynnig yn cynnwys manylion llawn telerau ac amodau’r cynnig. Os ydych yn gwneud cais i astudio’n llawn amser, byddwch hefyd yn cael manylion sut i wneud cais am lety’r Brifysgol. Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, fe’ch gwahoddir i gysylltu â Swyddfa Anabledd y Brifysgol neu’r Gwasanaeth Lles fel y gallwn fod yn siwˆ r ein bod yn rhoi’r cymorth angenrheidiol i chi drwy gydol eich astudiaethau. Ar ôl derbyn ein cynnig, os na fyddwch yn bodloni union amodau ein cynnig, mae’n bosibl y caiff eich cais ei ailystyried gan ddibynnu ar y lleoedd gwag sydd ar gael, ac mae’n bosibl y caiff eich lle ei gadarnhau o hyd.

158

Made with FlippingBook - Online magazine maker