Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

EIN POLISI DERBYN Mae’r Brifysgol yn croesawu

gynted â phosibl, ac yn ddelfrydol erbyn diwedd mis Gorffennaf ar gyfer derbyniad mis Medi ac erbyn diwedd mis Tachwedd ar gyfer derbyniad mis Ionawr, yn ystod y flwyddyn rydych yn awyddus i ddechrau astudio ar gyfer rhaglenni Meistr a addysgir. Sylwch ar derfynau amser ysgoloriaethau gan fod gan lawer o’n hysgoloriaethau a’n bwrsariaethau a addysgir ddyddiadau cau yn gynharach na’r dyddiadau a grybwyllwyd uchod. COFRESTRU Caiff gwybodaeth am y broses gofrestru ei hanfon atoch cyn i chi ddechrau astudio. Fel arfer, cynhelir y broses gofrestru ar gyfer rhaglenni a addysgir ddiwedd mis Medi. Cynhelir y broses gofrestru ar gyfer graddau ymchwil ym mis Hydref, Ionawr, Ebrill neu Orffennaf. Noder ei bod yn ofynnol i bob myfyriwr gydymffurfio â gweithdrefnau cofrestru’r Brifysgol a pharchu Rheoliadau Cyffredinol ac Academaidd y Brifysgol – gweler:

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, a’ch bod o’r farn ein bod wedi gwneud camgymeriad, gallwch ofyn i ni ailystyried eich cais. Cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyn am ragor o fanylion. PROSES ANSAFONOL AR GYFER GWNEUD CAIS Mae gan rai rhaglenni proses cyflwyno cais wahanol. Ewch i’r wefan i dderbyn gwybodaeth am y broses cyflwyno cais ar gyfer eich rhaglen chi:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ sut-i-wneud-cais/proses- gwneud-cais BETH SYDD EI ANGEN ARNOCH? Er mwyn astudio rhaglen ôl-raddedig yn Abertawe, fel arfer bydd angen gradd Anrhydedd neu gymhwyster ôl-raddedig priodol arnoch. Mae’n bosibl y caiff profiad gwaith perthnasol hefyd ei ystyried er mwyn cael eich derbyn i raglenni gradd a addysgir. Gweler manylion y rhaglen am ofynion mynediad manwl. DYDDIADAU A ddyddiadau cau sefydlog ar gyfer eu rhaglenni a addysgir. Gweler manylion rhaglenni unigol am ragor o wybodaeth. Rydym yn argymell y dylech gyflwyno eich cais cyn THERFYNAU AMSER Mae gan rai o’n hadrannau

ceisiadau ac ymholiadau gan bob unigolyn ni waeth beth fo’i oedran, hil, tarddiad ethnig neu genedlaethol, credoau crefyddol neu wleidyddol, rhywedd, dewisiadau rhywiol, statws priodasol, cyfrifoldeb teuluol, ac anabledd corfforol neu synhwyraidd, onid yw’r gweithgareddau hyn yn anghyfreithlon neu’n mynd yn groes i bolisi’r Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn trin pob ymgeisydd yn ôl ei rinweddau unigol ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr ag amrywiaeth o gymwysterau a phrofiad gwaith. Gellir cael y manylion llawn am ein polisïau yma:  abertawe.ac.uk/astudio/ derbyn-myfyrwyr/polisi-derbyn

 myuni.abertawe.ac.uk/ bywyd-academaidd/ rheoliadau-academaidd

DIWRNODAU AGORED Darganfyddwch fwy am Brifysgol Abertawe a’n rhaglenni Ôl-raddedig trwy archebu lle ar un o’n diwrnodau agored sydd ar ddod*. ARCHEBWCH EICH LLE HEDDIW:  a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored *edrychwch ar ein gwefan i gael manylion llawn, dyddiadau a fformat y diwrnodau agored sydd ar ddod.

159

Made with FlippingBook - Online magazine maker