Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

02 GWNEUD CAIS A DERBYN EICH CYNNIG

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i Brifysgol Abertawe ar gyfer y rhan fwyaf o’n cyrsiau ôl-raddedig (mae rhai rhaglenni’n eithriadau). Fel arfer, byddwch yn clywed a ydym wedi cynnig lle i chi astudio ar y cwrs neu’r cyrsiau rydych wedi’u dewis o fewn pum niwrnod gwaith. Gallwch wneud cais erbyn diwedd mis Gorffennaf (ar gyfer mynediad ym mis Medi) ac ar ddiwedd mis Tachwedd (ar gyfer mynediad ym mis Ionawr) fan bellaf ond peidiwch â’i adael yn rhy hwyr oherwydd y gallwch golli cyfleoedd am ysgoloriaethau.

LLINELL AMSER Y CAIS P’un a yw eich cwrs yn dechrau ym mis Medi neu ym mis Ionawr, mae’n syniad da i chi ddechrau meddwl am opsiynau astudio ôl-raddedig o leiaf chwe mis cyn i’r cwrs ddechrau.

01

DERBYN EICH CYNNIG Rhowch wybod i ni o fewn 28 o ddiwrnodau i sicrhau eich bod yn cael lle ar y cwrs o’ch dewis. 03

DECHRAU CYNLLUNIO Ydych chi am barhau i astudio’ch pwnc presennol neu astudio mewn maes hollol wahanol ? Byddai’n syniad da meddwl hefyd beth fyddai orau i chi – gradd wedi’i haddysgu neu radd ymchwil. Bydd ein Diwrnodau Ôl-raddedig yn rhoi cyfle i chi archwilio eich holl opsiynau ar ein campysau sydd ger y traeth. Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig amrywiaeth o gynlluniau astudio, cyflogadwyedd a chyllid gwych. Mae’n syniad da cysylltu â’ch canolwyr a pharatoi datganiad personol cyn dechrau’ch cais.

160

Made with FlippingBook - Online magazine maker