Gallwch chi gychwyn eich PhD ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Hydref, Ionawr, Ebrill neu Orffennaf. Rhowch 3 i 6 mis i’ch hun i gynllunio ac ymchwilio cyn i chi gyflwyno’ch cais. Yn Abertawe, rydym yn cynnig dau brif fath o brosiect PhD: • Y rhai sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw gan academydd (sy’n fwy cyffredin mewn pynciau gwyddoniaeth a pheirianneg) • Y rhai rydych chi’n eu dylunio’ch hun
AM PhD?
Prosiectau a gynlluniwyd ymlaen llaw:
Bydd prosiect a gynlluniwyd ymlaen llaw yn aml yn rhan o waith ymchwil ehangach a wneir gan academydd neu grŵp ymchwil. Fel arfer bydd teitl a nodau ac amcanion penodol i’r mathau hyn o brosiectau, a byddwch fel rheol yn cael eich goruchwylio gan yr academydd a gynlluniodd y prosiect. Mae Prifysgol Abertawe yn hysbysebu nifer fawr o’r cyfleoedd hyn drwy gydol y flwyddyn academaidd ym mhob maes pwnc.
CYLLID:
Mae ysgoloriaethau ymchwil yn Abertawe fel arfer yn cynnig cyllid ar gyfer cyfnod eich astudiaethau. Mae benthyciadau PhD ar gael hefyd trwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr a Chyllid Myfyrwyr Cymru.
GWNEUD CAIS:
Mae gwneud cais am brosiect a gynlluniwyd ymlaen llaw yn syml – yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud bydd dilyn y cyfarwyddiadau ar hysbyseb y prosiect. Fel arfer bydd gan y rhain dyddiad cau penodol felly rhowch ddigon o amser i’ch hunan i gwblhau unrhyw waith papur a chasglu geirdaon os oes angen.
162
Made with FlippingBook - Online magazine maker