Graddau PhD a hunangynlluniwyd:
Bydd angen ychydig mwy o ymdrech a meddwl i gychwyn ar PhD a hunangynlluniwyd, ond yn y bôn, dylech fod â thema i’ch prosiect sydd wirioneddol yn eich cyffroi ac o ddiddordeb i chi.
CYSYLLTWCH Â DARAPR ORUCHWYLWYR:
Ar ôl creu syniad cychwynnol ar gyfer prosiect, bydd angen i chi ddod o hyd i oruchwyliwr academaidd priodol. Man dechrau da yw dod o hyd i’r adran yn y Brifysgol sydd â’r meysydd cryf sydd fwyaf perthnasol i’ch gwaith ymchwil. Gallwch hefyd chwilio cyfeiriadur arbenigedd Prifysgol Abertawe, siaradwch â’ch goruchwyliwr presennol, neu ewch i ffair astudio neu Ddiwrnod Agored Ôl-raddedig.
CYLLID:
Os ydych chi’n bwriadu dechrau prosiect a hunan-ariennir, bydd yn rhaid i chi sicrhau y gallwch chi dalu cost y ffioedd dysgu a’ch costau byw ar gyfer hyd eich astudiaethau. Ceir nifer o ffyrdd y gallwch chi ariannu eich PhD gan gynnwys: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ffioedd- ac-ariannu/benthyciadau-ol-raddedig Benthyciadau PhD ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr. Lloegr a Chyllid Myfyrwyr Cymru.
GWNEUD CAIS:
Ar ôl i chi adnabod darpar oruchwyliwr ar gyfer eich syniad ymchwil, bydd angen i chi gysylltu ag ef cyn cyflwyno cais ffurfiol. Mae academyddion yn croesawu ceisiadau anffurfiol gan ddarpar fyfyrwyr a byddant hefyd yn eich helpu chi i ffurfio eich cynnig ymchwil. Dylech chi gynnal eich ymchwil cyn i chi gyflwyno eich cais a threulio amser yn ei baratoi. Pob lwc!
163
Made with FlippingBook - Online magazine maker