Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

MANTEISION ASTUDIO

Am fwy o wybodaeth a chanllawiau ymgeisio gweler colegcymraeg.ac.uk

DIWEDD Y GÂN... Gall astudio rhan o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fod o fantais i chi yn ariannol gyda nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud. Gallwch ymgeisio am ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg cyn cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe neu wedi i chi gyrraedd. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod modd i unigolion sy’n ddwyieithog ennill cyflog uwch ar gyfartaledd na chyfoedion sydd yn siarad dim ond un iaith. RHAGOLYGON GYRFA Mae cyflogwyr yng Nghymru yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau yn yr iaith Gymraeg a gall astudio rhan o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn hynod fanteisiol felly. Bydd nodi’r sgiliau hyn yn ychwanegiad atyniadol iawn ar eich CV ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi mewn nifer o achosion. Yn ogystal â hyn mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cyfrwng Cymraeg yn y gweithle ac i ennyn cysylltiadau a phrofiadau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol. Y GYMDEITHAS GYMRAEG (GYMGYM) Mae’r GymGym yn rhoi cyfleoedd amrywiol i chi gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cwrdd yn rheolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys tripiau rygbi, gigs, a crôls, Eisteddfodau Rhyng-gol a llawer mwy. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gweithio’n glos gyda Changen Abertawe o’r Coleg Cymraeg gan hefyd gefnogi Clwb Rygbi Tawe a Phêl Rwyd Tawe. Mae astudio cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol yn gyfle arbennig i ddatblygu eich sgiliau ac i fanteisio ar gyfleoedd a fydd yn helpu agor y drws i ddyfodol disglair.

Katie Phillips, Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Fel Swyddog Materion Cymraeg, fy mhrif rôl i yw cynrychioli myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol gan sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg yn derbyn yr un cyfleoedd â phawb. Trwy gydol y flwyddyn, dwi am hyrwyddo defnydd y Gymraeg ar draws y campws gan gynyddu’r cyfleoedd addysgol a chymdeithasol, a hefyd cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg i gymdeithasu. Rydw i’n bwriadu codi ymwybyddiaeth am ddiwylliant Cymru trwy nifer o ddigwyddiadau a dathliadau yn ystod y flwyddyn. BWRSARIAETHAU MEISTR CYFRWNG CYMRAEG LLYWODRAETH CYMRU (£1,000) Bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio gradd Meistr a addysgir gwerth 180 credyd llawn ac sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Ewch i dudalen 156 am fanylion.

28

Made with FlippingBook - Online magazine maker