ACADEMI
CANGEN PRIFYSGOL ABERTAWE, COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
ASTUDIO A CHYMDEITHASU DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae cangen y Brifysgol wedi’i lleoli yn Academi Hywel Teifi. Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ysgoloriaethau doethuriaeth diweddar a gyd-ariannwyd gan y Coleg Cymraeg a Phrifysgol Abertawe yn cynnwys meysydd Seicoleg, Cyfieithu, Cymraeg, Cemeg a Gwyddorau Biofeddygol. Am fwy o wybodaeth ewch i: abertawe.ac.uk/cangen-abertawe YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae cynllun Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi yn agored i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Am fwy o wybodaeth ac i weld y pynciau sy’n gymwys ewch i:
Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-raddedig ac mae Academi Hywel Teifi yma i’ch cefnogi i wneud hynny trwy gydol eich amser gyda ni. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi astudio drwy’r iaith ar lefel israddedig yn gam naturiol ac o fantais sylweddol ac fe gewch gefnogaeth ac anogaeth lawn i wneud hynny er mwyn ychwanegu at eich cyflogadwyedd, i feithrin sgiliau dadansoddi ac i ddangos y gallu i weithio mewn mwy nag un iaith. Mae Academi Hywel Teifi yn bwerdy ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Prif nod yr Academi yw cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y Brifysgol er mwyn sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn cael y gorau o ddau fyd – profiad Cymraeg a Chymreig mewn prifysgol sydd â chysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol heb eu hail. Mae’r Academi yn darparu cymuned i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma, ac i staff cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Drwy gefnogi adrannau’r Brifysgol mae’r Academi wedi galluogi cynnydd sylweddol yn nifer y pynciau sydd yn cael eu dysgu trwy’r Gymraeg yn Abertawe. Ymhlith y datblygiadau diweddaraf mae ein Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) er mwyn hyfforddi Athrawon Uwchradd y dyfodol mewn ystod o feysydd, ac mae’r cwrs Meddygaeth i ôl-raddedigion yn un uchel iawn ei barch. Ers 2011, bu cynnydd o 113% yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ein data TEF* dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dangos bod myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn gyflawnwyr uchel o ran cyflogadwyedd. Mae’r ddarpariaeth Gymraeg yn rhan annatod o’r addysgu safon aur a gynigir yma.
abertawe.ac.uk/academi-hywel-teifi/ dysgu/ysgoloriaethau-bwrsariaethau-aht
abertawe.ac.uk/ academi-hywel-teifi
@ AcademiHTeifi
AcademiHywelTeifi
AcademiHywelTeifi
30
Made with FlippingBook - Online magazine maker