Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

VARSITY Gemau’r Prifysgolion yw’r digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf o blith Gemau Varsity Prifysgolion Prydain, tu ôl i’r gêm rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Yn ystod Gemau’r Prifysgolion, mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn dros 30 o gampau gwahanol, o bêl-fasged, rhwyfo, golff a hoci i gleddyfaeth, sboncen a Ffrisbi Eithafol. Gwyliwch uchafbwyntiau Gemau’r Prifysgolion yma: welshvarsity.com RHAGLEN PERFFORMIAD UCHEL Mae ein Rhaglen Perfformiad Uchel yn cynnig cymorth i athletwyr elît mewn ystod o gampau gwahanol. Cyflawnir pob rhaglen ar y cyd â chlwb chwaraeon proffesiynol neu gorff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer partner chwaraeon. Ar hyn o bryd mae ein rhaglen yn cefnogi chwe champ ac mae’n tyfu bob blwyddyn. Mae pob camp yn derbyn hyfforddiant perfformiad uchel, gwasanaethau ym maes y gwyddorau chwaraeon, rheoli ffordd o fyw athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru. Ar hyn o bryd, dyma’r chwaraeon:

• Hoci • Pêl-rwyd • Tenis bwrdd

• Rygbi • Pêl-droed • Nofio

Mae’r Brifysgol yn cynnig Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS) i athletwyr dawnus iawn a phecyn cymorth gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn a allai gynnwys; hyfforddiant cryfder a chyflyru, ffisiotherapi, cymorth seicolegol a chyngor maethol – a darperir pob un ohonynt gan ymarferwyr cymwys. Gall buddion eraill gynnwys aelodaeth o gyfleusterau am ddim a hawlen i barcio ar y campws. DARGANFYDDWCH FWY: a bertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

36

Made with FlippingBook - Online magazine maker