RYDYM YMA
Rwyf wedi tyfu cymaint fel person trwy gydol fy nghyfnod fel myfyriwr israddedig yn Abertawe a nawr yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr ôl-raddedig yn ogystal ac rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn fy hun. Rwyf wedi sylweddoli cymaint fy mod yn dwlu ar ddysgu o’i gymharu â fy nghyfnod yn yr ysgol am fy mod wedi dewis astudio rhywbeth sy’n llawer mwy pleserus nag astudio ar gyfer arholiadau TGAU neu Safon Uwch lle teimlais nad oedd modd i mi ddysgu am y pethau yr oeddwn yn dymuno dysgu amdanynt. Rwyf wedi bod yn rhan o gymdeithasau ers y pedair blynedd diwethaf ac maent wedi gwella fy nghyfnod yn y Brifysgol mewn ffordd na allwn fod wedi’i dychmygu. Mae cynifer o bethau ar gael ac mae cychwyn eich cymdeithas eich hun yn hawdd iawn os nad oes rhywbeth at eich dant. Trwy fod yn aelod o bwyllgor rwyf wedi gwella fy sgiliau arweinyddiaeth a threfnu a byddwn yn ailadrodd hyn mewn chwinciad. Mae’r adborth academaidd yn dda iawn, caiff gwaith ei farcio’n brydlon ac fel arfer cewch sylwadau ac awgrymiadau sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi defnyddio canolfan gyngor y Brifysgol ar sawl achlysur ac mae’r staff wedi bod yn anhygoel. Roedd modd i mi weld rhywun ymhen ychydig o ddyddiau a derbyniais gyngor a chymorth defnyddiol iawn. Caroline (Myfyriwr Ôl-raddedig, 2019, adolygiad WhatUni)
Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth myfyrwyr yn ystod eich astudiaethau ôl-raddedig, gan sicrhau bod eich amser yma ym Mhrifysgol Abertawe mor ddi-straen a hwylus â phosib.
HYB Y MYFYRWYR SUT GALLWN EICH HELPU ?
Mae Hyb y Myfyrwyr yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyriwr o gofrestru i raddio. Mae’r tîm hefyd yn darparu cyngor, arweiniad ac atgyfeiriadau ar gyfer eich holl ofynion cymorth yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Gallwch ymweld â’n timau profiadol a chyfeillgar ar Gampws Singleton a Bae.
42
Made with FlippingBook - Online magazine maker