Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CYRSIAU TROSI Os ydych chi am newid cyfeiriad eich astudiaethau neu lwybr gyrfa nad yw’n gysylltiedig â’ch gradd israddedig, rydym ni’n cynnig cyfle i chi astudio cwrs trosi. Mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i raddedigion o unrhyw faes pwnc astudio cwrs meistr ôl-raddedig heb unrhyw gymwysterau perthnasol blaenorol. Mae gennym ddetholiad amrywiol o gyrsiau trosi ar gael ym maes cyllid, gwyddoniaeth, peirianneg, gwyddor iechyd, meddygaeth, y gyfraith, rheoli busnes a’r celfyddydau a’r dyniaethau. A ALLAF ASTUDIO’N RHAN AMSER? Fel arfer, gellir astudio ar gyfer

rhaglenni Meistr, Diplomâu Ôl-raddedig a Thystysgrifau

AI GRADD ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR YW’R DEWIS PRIODOL I MI? Ie, os rydych am wneud y canlynol: • Gwella eich rhagolygon gyrfa. • Meithrin sgiliau newydd ac arbenigol. • Paratoi ar gyfer gradd ymchwil. • Datblygu eich gwybodaeth bwnc o’ch gradd gyntaf. • Astudio pwnc newydd sbon. Ôl-raddedig yn llawn amser neu’n rhan amser mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc. Fe’th anogir i gysylltu â’r adran academaidd dan sylw cyn gwneud cais. Cadwch lygad am y symbol RhA ar ein tudalennau cyrsiau.

ASESIAD DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Gallwch gyflwyno gwaith ymchwil yn y Gymraeg os yw’ch goruchwylwyr yn gallu goruchwylio gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.

45

Made with FlippingBook - Online magazine maker