Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

GRADDAU YMCHWIL Mae graddau ymchwil yn rhaglenni academaidd heriol sy’n gofyn i chi astudio pwnc yn fanwl am gyfnod parhaus o amser. Drwy ddyfarnu doethuriaeth neu radd ymchwil arall, cydnabyddir ymrwymiad ymgeiswyr llwyddiannus, y sgiliau lefel uchel a feithrinwyd ganddynt, a’u gallu i gyflwyno gwaith ymchwil gwreiddiol sy’n datblygu dealltwriaeth o’r pwnc dan sylw. Fel myfyriwr ymchwil, byddwch chi’n ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant mewn dulliau ymchwil cyn dechrau ar eich rhaglen ymchwil. Bydd gennych oruchwylydd academaidd a fydd yn llywio ac yn cefnogi cyfeiriad eich gwaith ymchwil drwy gydol y cwrs gradd, a bydd cyd-oruchwylydd yn cynnig cymorth ychwanegol fel y bo angen. DEWIS PWNC YMCHWIL MPhil a PhD, yn wahanol iawn i raglenni Meistr israddedig a rhaglenni Meistr a addysgir gan nad oes rhestr ddiffiniedig o gyrsiau i ddewis o’u plith. Gellir astudio graddau MPhil a PhD ar unrhyw bwnc academaidd, ar yr amod bod gan y coleg/ysgol rydych yn gwneud cais iddo/iddi yr arbenigedd i lywio a goruchwylio eich astudiaethau. Pan fyddwch chi wedi adnabod maes pwnc yr hoffech chi weithio ynddo, argymhellwn eich bod chi’n cyflwyno cynnig ymchwil ac yn trafod hyn gyda Thiwtor Derbyn yn y maes pwnc cyn cyflwyno cais. Ceir Cyfeiriadur Arbenigedd yn:  a bertawe.ac.uk/ ol-raddedig/ymchwil Hyd yn oed os ydych wedi meddwl am gynnig ymchwil mwy datblygedig, rydym yn argymell y dylech gysylltu

hasesu ar ffurf arholiad llafar (viva). Yn amodol ar ofynion academaidd, gall fod cyfleoedd i fyfyrwyr uwchraddio o’r radd MPhil i PhD yn ystod eu hastudiaethau. MA/MSc/LLM drwy Ymchwil: Fel arfer, un flwyddyn yn llawn amser, rhwng dwy a thair blynedd yn rhan amser. Prosiect ymchwil unigol yw’r prosiect hwn a gaiff ei ysgrifennu i greu thesis o 30,000 o eiriau. MRes: Nod MRes (Meistr Ymchwil) yw darparu hyfforddiant perthnasol er mwyn meithrin y wybodaeth, y technegau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa broffesiynol, neu er mwyn symud ymlaen i astudiaethau academaidd uwch, PhD fel arfer. Cyflawnir MRes drwy gyfuniad o fodiwlau a addysgir (gwerth 60 o gredydau) a thesis ymchwil sy’n cyflwyno canlyniad prosiect ymchwil sylweddol (gwerth 120 o gredydau). EngD: Mae’r Ddoethuriaeth Peirianneg yn paratoi myfyrwyr Peirianneg ar gyfer gyrfaoedd arwain ym maes ymchwil a thechnoleg ac fe’i cefnogir yn llawn gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol. Mae’r EngD yn gynllun pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o fodiwlau a addysgir wedi’i dilyn gan brosiect ymchwil sy’n gysylltiedig â diwydiant. MD: Yn ogystal â’r PhD, mae’r Ysgol Feddygol yn cynnig gradd ôl-raddedig Doethur mewn Meddygaeth (MD) drwy waith ymchwil wedi’i oruchwylio o fewn grwpiau ymchwil unigol. DProf: Pedair blynedd yn llawn amser, chwe blynedd yn rhan amser fel arfer. Mae Doethuriaeth Broffesiynol yn radd ymchwil wedi’i strwythuro o amgylch maes arfer proffesiynol penodol. Byddwch yn dilyn rhaglen astudio o dan gyfarwyddyd, gan gynnwys cyfnodau gan gynnwys cyfnodau o

â’r Tiwtor Derbyn perthnasol er mwyn cael cyngor. Caiff darpar ymgeiswyr eu paru â darpar oruchwylwyr ar gam cynnar o’r broses. Mae hon yn hanfodol er mwyn sicrhau’r canlynol: • Eich bod yn cael y cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch i benderfynu p’un ai gradd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yw’r dewis cywir i chi. • Bod y goruchwylydd yn frwdfrydig ynghylch y pwnc ac wedi’i gymell ganddo. • Eich bod yn symud yn ddidrafferth i grŵp ymchwil priodol (lle y bo’n berthnasol). • Eich bod yn cwblhau eich gwaith ymchwil ac yn ei ysgrifennu o fewn y terfyn amser gofynnol. PA RADD YMCHWIL? Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o raddau ymchwil, gan gynnwys: PhD: Mae myfyrwyr PhD yn ymgymryd â gwaith ymchwil wedi’i oruchwylio dros gyfnod rhwng tair a phedair blynedd yn llawn amser neu rhwng chwech a saith mlynedd yn rhan amser. Wedyn, caiff y gwaith ymchwil ei gyflwyno ar ffurf thesis heb fod yn fwy na 100,000 o eiriau. Rhaid i’r thesis ddangos gallu’r myfyriwr i ymdrin â’r cynnig ymchwil gwreiddiol a dylai wneud cyfraniad penodol a sylweddol at y pwnc. Defnyddir y flwyddyn gofrestru gyntaf ar gyfer PhD fel cyfnod prawf swyddogol, a chaiff yr ymgeisydd ei asesu gan yr adran cyn y gall barhau â’r gwaith ymchwil. MPhil: Gellir ei gwblhau drwy astudio am gyfnod rhwng dwy a thair blynedd yn llawn amser (rhwng pedair a phum mlynedd yn rhan amser). Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno thesis hyd at 60,000 o eiriau a chânt eu

46

Made with FlippingBook - Online magazine maker