Yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle
Rydym yn croesawu barn newydd, a byddwch yn derbyn yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, gan ein holl staff, a thrwy fynediad i’n hadnoddau er mwyn cyflawni eich uchelgeisiau wrth gyfoethogi ein hamgylchedd ymchwil yn yr un pryd. Mae ymchwil ac arloesi wrth wraidd profiad Abertawe ac yn bwydo’n uniongyrchol i ansawdd ein haddysgu. Fe welwch gyfeiriad at ein heffeithiau yn y byd go iawn – o ystafelloedd dosbarth ynni-bositif i frechlynnau di-boen – ar dudalennau’r prosbectws hwn. Rwy’n gobeithio bod fy ffydd yn ein Prifysgol yn glir, ond peidiwch â chymryd fy ngair i’n unig – dewch i un o’n diwrnodau agored i gael gwybod rhagor.
Fy rôl academaidd gyntaf oedd fel darlithydd ifanc yn yr Adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a gallaf ddweud yn gwbl onest fod ansawdd yr addysg a’r amgylchedd anogol heb eu hail. Mae ein Prifysgol wedi esblygu’n fawr dros y blynyddoedd, ond mae ein hegwyddorion yn aros yr un fath. Rydym ni’n gymuned, rydym ni’n rhoi ein pobl yn gyntaf ac mae mewnbwn gwerthfawr ein myfyrwyr ôl-raddedig yn cyfrannu’n fawr at ein llwyddiant. Fel Prifysgol, roedden ni ymhlith y 10 Prifysgol Orau yng nghategori Ôl-raddedigion Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2020 sef cymeradwyaeth glir gan y bobl bwysicaf.
03
Made with FlippingBook - Online magazine maker