Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

ADDYSG CAMPWS PARC SINGLETON

Mae'r Ysgol Addysg yn ddatblygiad arloesol a dynamig a arweinir gan ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Rydym yn cyflawni gwaith ymchwil rhyngwladol ardderchog, yn datblygu partneriaethau rhyngwladol clodfawr ac yn cydweithio â gwasanaethau addysg rhanbarthol arloesol. Mae ein rhaglenni'n meithrin graddedigion byd-eang sydd â phrofiad addysgol perthnasol ac eang, wedi'i gyfuno â phrofiad ymarferol iawn. Rydym yn arwain y ffordd o ran ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn cefnogi ymarferwyr addysg ar bob lefel. Mae ein gwaith ymchwil hefyd yn canolbwyntio ar bolisi ac mae’n ymatebol i bolisi. Yn fyd-eang, mae addysg yn wynebu newidiadau hollol newydd a diwygiadau sylweddol ym maes addysg mewn nifer o wledydd. Mae cyfleoedd o’r fath yn gwneud hon yn adeg gyffrous i astudio addysg.

rhaglen MA yn cynnig cyfle i chi feithrin dealltwriaeth o'r tueddiadau, trafodaethau a gwaith ymchwil diweddaraf ym myd addysg, a fydd yn llywio, yn herio ac yn cyfoethogi eich ymarfer proffesiynol eich hun. Caiff y rhaglen ei harwain gan ymchwilwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ym maes addysg ac sy'n arbenigo mewn amrywiaeth eang o feysydd arbenigol. Mae ein holl staff addysgu wedi cyhoeddi llawer o waith ac maent yn arwain eu prosiectau ymchwil eu hunain, a hynny'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â chyfarwyddwr y rhaglen • Addysg ac Anghydraddoldeb • Addysg ac Ymarfer Digidol •Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant • Arwain a Rheoli Newid ym Myd Addysg • Cwricwlwm, Addysgeg ac Asesu • Dulliau Ymchwil ym Myd Addysg ADDYSG (CYMRU) MA RhA Mae’r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) yn rhaglen gwbl weddnewidiol sy’n arwain y sector MA, yr Athro Alma Harris – alma.harris@abertawe.ac.uk Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys:

athrawon ar ddechrau eu gyrfaoedd i uwch-arweinwyr. Mae’r dirwedd addysgol yng Nghymru’n newid yn gyflym. Mae angen meistroli set o sgiliau cymhleth i arwain, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymchwilio i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Mae’r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) wedi cael ei lunio ar y cyd rhwng saith prifysgol yng Nghymru, drwy ymgysylltu uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, a bydd yn sicrhau bod yr holl weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru’n meddu ar yr un cyfleoedd o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgymryd ag ymchwil a gwella eu hymarfer proffesiynol. Dylai darpar fyfyrwyr gysylltu â Dr Michelle Jones - michelle.s.jones@abertawe.ac.uk Mae’r modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Arwain Newid Sefydliadol • Llunio a Gwireddu’r Cwricwlwm • Sgiliau Ymchwil a Holi Uwch • Ymarfer sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth • Ymarfer Ystafell Ddosbarth Gynhwysol

ADDYSGMA ALl RhA ION Mae hon yn rhaglen gyfoes, hyblyg ac arloesol a gynlluniwyd er mwyn cynnig cyfleoedd cyffrous i weithwyr proffesiynol feithrin a dyfnhau eu gwybodaeth am addysg a'u diddordebau yn y maes. Mae'r YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, o

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

48

Made with FlippingBook - Online magazine maker