Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

• Ieithoedd Tramor Modern (Ffrangeg a Sbaeneg) • Mathemateg • Saesneg Llwybrau cyfrwng Saesneg a Chymraeg ar gael. Mae gan y Bartneriaeth ddisgwyliadau uchel o athrawon dan hyfforddiant a rhaid i ymgeiswyr ddangos i banel cyfweld bod ganddynt y rhinweddau deallusol, yr agweddau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i addysgu yn y sector uwchradd. Rhaid i ymgeiswyr hefyd feddu ar y priodoleddau personol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu'n ymarferwyr myfyriol sy'n hyddysg mewn ymchwil a'r gwydnwch i addasu'n dda i ofynion y rhaglen. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â Dr Helen Lewis neu Dr Neil Lucas – pgce-enquiries@abertawe.ac.uk i drafod gofynion y rhaglen neu llenwch ffurflen ymholi trwy ein gwefan: abertawe.ac.uk/addysg/

ADDYSGMPhil/PhD ALl RhA Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr sydd am wneud ymchwil lefel graddedig. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â Dr Janet Goodall, j.s.goodall@abertawe.ac.uk i drafod pynciau goruchwylio a meysydd ymchwil posibl. Mae meysydd arbenigol Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe yn cynnwys: • Addysg Athrawon • Addysg Oedolion • Anghenion Dysgu Ychwanegol • Arweinyddiaeth • Dysgu Proffesiynol Mae cysylltiad agos rhwng y rhaglen Addysg a chryfderau ymchwil y staff academaidd sy'n cymryd rhan yn y grŵp ymchwil ‘Polisi ac Ymarfer Addysg’ ac yn ehangach mewn meysydd eraill ym maes addysg. Mae staff academaidd yn Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe yn cyflawni gwaith ymchwil o'r radd flaenaf mewn amrywiaeth eang o feysydd sy'n gysylltiedig ag addysg ac yn ceisio hybu cydweithio rhwng ysgolheigion, addysgwyr, athrawon, arweinwyr ysgolion a llunwyr polisïau. Gan • Ehangu Cyfranogiad • Plentyndod Cynnar • Sgiliau Digidol • Ymgysylltu â Rhieni weithio ar y lefel academaidd uchaf, byddwch yn gwneud gwaith ymchwil gwreiddiol sy'n fawr ei effaith ac yn gyhoeddadwy. Mae pob myfyriwr ymchwil addysg yn perthyn i'r Ganolfan Graddedigion yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r Ganolfan yn darparu cymorth bugeiliol yn ogystal â chymorth gweinyddol ac mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth ym maes sgiliau ymchwil, a hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i gymuned ymchwil ôl-raddedig y Coleg o 200 o fyfyrwyr.

TAR UWCHRADD GYDA SAC (SAFONATHRO CYMWYSEDIG) ALl Caiff y rhaglen Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) arloesol hon sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) ei chyflwyno mewn partneriaeth ag ysgolion ledled Cymru. Mae Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe wedi cynllunio'r rhaglen i greu athrawon sy'n hyddysg mewn ymchwil ac yn gallu myfyrio ar eu hymarfer er mwyn gwella pob agwedd ar ddysgu myfyrwyr. Mae'r rhaglen yn creu athrawon a fydd yn ymuno â'r proffesiwn yn meddu ar wybodaeth bwnc, gwybodaeth addysgegol a gwybodaeth ymchwil. Byddant yn barod i fod yn weithwyr proffesiynol gydol gyrfa sy'n gallu ymateb i natur newidiol gwybodaeth mewn cymdeithas a byddant yn arbenigo mewn addysgu myfyrwyr.

astudiaethau-ol-raddedig-yr- ysgol-addysg/tar/ymholiad

Rydym yn cynnig rhaglenni TAR uwchradd yn y meysydd pwnc canlynol: • Bioleg • Cemeg • Cyfrifiadureg • Cymraeg • Dylunio a Thechnoleg • Ffiseg

49

Made with FlippingBook - Online magazine maker