ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD CAMPWS PARC SINGLETON
PWNC (The Complete University Guide 2021) UCHAF YN Y DU 10
Mae deall yr hyn sydd wedi creu ac sy'n parhau i lywio America yn ein helpu i wneud synnwyr o'n byd ni heddiw. Mae'r astudiaeth gymharol o hanes a diwylliant yr Unol Daleithiau yn mynd i'r afael â themâu fel mewnfudo, democratiaeth, caethwasiaeth, imperialaeth, amlddiwylliannaeth, hil ac ethnigrwydd, hanes trefol, yr economi a therfysgaeth. Nid oes a wnelo'r materion hyn â'r gorffennol yn unig – maent yn uniongyrchol berthnasol i'r byd rydym yn byw ynddo. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), barnwyd bod 70% o ymchwil ein staff o'r radd flaenaf (4*) neu'n rhyngwladol ardderchog (3*).
• Sinema Fud a Diwylliant Poblogaidd • Sut y Cynrychiolir Rhyfel Fiet-nam • Y Ddinas Americanaidd Mae ein Hadran Astudiaethau Americanaidd ynghlwm wrth brosiectau ymchwil cydweithredol gyda sawl prifysgol ledled yr Unol Daleithiau ac mae rhaglen o siaradwyr gwadd o Brydain ac UDA. Mae staff wedi ysgrifennu a golygu astudiaethau hyd llyfr o lenyddiaeth, diwylliant poblogaidd, barddoniaeth fodern, hanes trefol, rhyfel a chof, arweinwyr llafur, Mae ein llyfrgell helaeth yn diwallu ein hanghenion ymchwil. Cryfder arbennig yw Casgliad Allan Milne o ryw 3,000 o weithiau sy'n ymwneud â Rhyfel Cartref America, a roddwyd i Astudiaethau Americanaidd yn 2010 ac sy'n parhau i dyfu. Fel un o'r mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, mae Casgliad Milne yn amrywiol iawn a cheir detholiad arbennig o ddeunyddiau ffynhonnell sylfaenol ac eilaidd sy'n dogfennu llawer o agweddau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a milwrol ar hanes a gwleidyddiaeth America rhwng canol a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. prosesau gwleidyddol ac athroniaeth Americanaidd.
ASTUDIAETHAU AMERICANAIDDMA drwy Ymchwil/MPhil/PhD ALl RhA Croesawn gynigion ar gyfer prosiectau ymchwil ôl-raddedig sy'n ategu diddordebau ymchwil staff. Cryfderau Ymchwil: Mae diddordebau ymchwil staff yn cwmpasu disgyblaethau craidd Astudiaethau Americanaidd: llenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth a ffilm. Ymhlith y cryfderau ymchwil penodol mae: • Ardal Ddeheuol America • Dadeni Harlem • Effaith Rhyfel ar Gymdeithas Americanaidd • Ffilmiau Hollywood a Chymdeithas Americanaidd • Gorllewin America • Gwleidyddiaeth a Llywodraeth Americanaidd • Gwyliadwriaeth ac America Drefol • Hil, Ethnigrwydd ac Amlddiwylliannaeth Americanaidd • Llenyddiaeth a Diwylliant Affricanaidd-Americanaidd • Llenyddiaeth Americanaidd Gyfoes • Polisi Cyffuriau'r Cenhedloedd Unedig a Gwledydd Rhyngwladol • Polisi Tramor yr UD • “Rhyfel ar Gyffuriau” yr UD • Rhyfel Cartref America
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyllido ar gyfer graddau ymchwil ac yn ddiweddar rydym wedi sicrhau swm sylweddol o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) er mwyn cynnig ysgoloriaethau ôl-raddedig. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
50
Made with FlippingBook - Online magazine maker