ASTUDIAETHAU GWLEIDYDDOL A DIWYLLIANNOL CAMPWS PARC SINGLETON
EFFAITH YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) UCHAF YN Y DU 20
Mae astudiaethau gwleidyddiaeth, polisi cyhoeddus, cysylltiadau rhyngwladol, athroniaeth a datblygu yn ddisgyblaethau sydd wedi archwilio gwahanol weledigaethau ar gyfer cymdeithas fwy cyfiawn ers miloedd o flynyddoedd, ac o ganlyniad gallant ymdrin â rhai o heriau mwyaf dybryd ein byd heddiw. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn theori, astudio llywodraeth a gwleidyddiaeth neu gydberthnasau rhyngwladol, mae'r rhain yn ddisgyblaethau sy'n gallu cynnal y safonau uchaf yn y gwyddorau cymdeithasol.
Rydym yn rhoi llawer o bwyslais ar gynhyrchu ymchwil wreiddiol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), barnwyd bod 70% o ymchwil staff o'r radd flaenaf (4*) neu'n rhyngwladol ardderchog (3*). Mae'r pynciau hyn yn gofyn y cwestiynau ymchwil allweddol y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw wrth ddatblygu ysgolheictod rhyngwladol.
CYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL MA ALl RhA Mae'r radd MA hon yn cynnig ymchwil uwch mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, gan helpu myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth fanwl o'r system ryngwladol, materion allweddol, y prif ffigyrau, a dulliau amgen o ddadansoddi a dehongli'r pwnc. Gyda gwerthfawrogiad o'r ddynameg fyd-eang ar waith, cewch wedyn y cyfle i arbenigo mewn archwilio rhannau penodol o'r byd. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Diogelwch Critigol • Dulliau Gweithredu o ran Cysylltiadau Rhyngwladol • Hawliau Dynol ac Ymyriad Dyngarol • Llywodraethu Cyffuriau yn Fyd-Eang • Ôl-Wladychiaeth, Dwyreinioldeb ac Ewroganolaeth • Trais, Gwrthdaro a Datblygu
CYSYLLTIADAU RHYNGWLADODOL MA (ESTYNEDIG) ALl RhA Mae'r rhaglen MA Estynedig hon yn cyfuno'r MA Cysylltiadau Rhyngwladol â chyfnod o astudio dramor. Mae'r cyfnod o astudio dramor yn un tymor ychwanegol a dreulir yn Ysgol Llywodraeth a Gwasanaeth Cyhoeddus Bush yn A&M Texas, UDA. Mae'r tymor ychwanegol yn gwneud yr MAE yn gyfwerth ag MA Ewropeaidd o ran credydau. DATBLYGU A HAWLIAU DYNOL MA ALl RhA Mae'r radd MA hon yn gynllun amlddisgyblaethol sy'n cyfuno dealltwriaeth o'r meysydd astudiaethau datblygu, gwleidyddiaeth/theori wleidyddol a chyfraith ryngwladol. Mae'r rhaglen yn archwilio'r rhyngwyneb cymharol newydd rhwng hawliau dynol a datblygu rhyngwladol. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol • Diogelwch Critigol • Dulliau Datblygu Seiliedig ar Hawliau
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
52
Made with FlippingBook - Online magazine maker