Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

• Dulliau Gweithredu o ran Cysylltiadau Rhyngwladol • Hawliau Dynol ac Ymyriad Dyngarol • Llywodraethu Cyffuriau yn Fyd-Eang • Rhyfel, Hunaniaeth a Chymdeithas • Trais, Gwrthdaro a Datblygu DIOGELWCH A DATBLYGU RHYNGWLADOL MA ALl RhA Mae materion diogelwch, trais a gwrthdaro wedi dod yn rhan ganolog o wleidyddiaeth ryngwladol a datblygu polisi a thrafodaethau. Er mwyn deall y byd modern, rhaid meithrin gwerthfawrogiad llawn o realiti gwrthdaro a thrais. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Diogelwch Critigol • Dulliau Datblygu Seiliedig ar Hawliau • Hawliau Dynol ac Ymyriad Dyngarol • Llywodraethu Cyffuriau yn Fyd-Eang • Ôl-Wladychiaeth, Dwyreinioldeb ac Ewroganolaeth • Trais, Gwrthdaro a Datblygu DIOGELWCH A DATBLYGU RHYNGWLADOL MA (ESTYNEDIG) ALl RhA Mae'r rhaglen MA Estynedig hon yn cyfuno'r MA Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol â chyfnod o astudio dramor. Mae'r cyfnod o astudio dramor yn un tymor ychwanegol a dreulir yn Adran Astudiaethau Rhyngwladol ac Ardal Prifysgol Oklahoma, UDA. Mae'r tymor ychwanegol yn gwneud yr MAE yn gyfwerth ag MA Ewropeaidd o ran credydau.

O ganlyniad, bydd hefyd yn meithrin gwybodaeth a sgiliau'r rheini sydd am ddilyn gyrfa mewn ymchwil polisi cyhoeddus, cyngor polisi, lobïo, rheoli sector cyhoeddus neu newyddiaduraeth, neu sy'n gwneud hynny eisoes. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Datganoli o Safbwynt Cymharol • Democratiaeth a Chynllun Cyfansoddiadol • Diogelwch Critigol • Gwleidyddiaeth ym Mhrydain Gyfoes • Hawliau Dynol ac Ymyriad Dyngarol • Llywodraethu Cyffuriau yn Fyd-Eang • Llywodraethu Cymharol Mewn Systemau Cymhleth • Rhyfel, Hunaniaeth a Chymdeithas • Y Broses Llunio Polisi POLISI CYHOEDDUSMA (ESTYNEDIG) ALl RhA Mae'r rhaglen MA estynedig hon yn cyfuno'r MA Polisi Cyhoeddus â chyfnod o astudio dramor. Mae'r cyfnod hwn o astudio dramor yn un tymor ychwanegol a dreulir yn Ysgol Llywodraeth a Gwasanaeth Cyhoeddus Bush yn A&M Texas, UDA. Mae'r tymor ychwanegol yn gwneud yr MAE yn gyfwerth ag MA Ewropeaidd o ran credydau.

GWLEIDYDDIAETHMA ALl RhA Mae'r MA mewn Gwleidyddiaeth yn darparu cyflwyniad cyffredinol i astudio gwleidyddiaeth, gan gwmpasu strwythurau a phrosesau gwleidyddiaeth gyfoes. Yna mae'n galluogi myfyrwyr i ddewis opsiynau sy'n canolbwyntio ar wleidyddiaeth fyd-eang, gymharol a/neu Brydeinig, yn ogystal â theori ac athroniaeth wleidyddol. Cyfoethogir y radd gan gyfleoedd posibl (a ddyfernir ar sail gystadleuol) i ddysgu mewn lleoliadau gwaith mewn amrywiaeth o sectorau llywodraethol ac anllywodraethol yng Nghymru. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Datganoli o Safbwynt Cymharol • Democratiaeth a Chynllun Cyfansoddiadol • Diogelwch Critigol • Gwleidyddiaeth ym Mhrydain Gyfoes • Llywodraethu Cyffuriau yn Fyd-Eang • Llywodraethu Cymharol Mewn Systemau Cymhleth • Trais, Gwrthdaro a Datblygu • Y Broses Llunio Polisi POLISI CYHOEDDUS MA ALl RhA Mae'r MA Polisi Cyhoeddus yn darparu sail gadarn yn y dulliau damcaniaethol allweddol o astudio polisi cyhoeddus, ac mae'n ceisio meithrin gwybodaeth a sgiliau'r rheini sydd am astudio ymhellach yn y byd academaidd. Ar yr un pryd mae'n canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn tirwedd polisi cyhoeddus, a nodweddir fwyfwy bellach gan newid a rhyngddibyniaeth.

53

Made with FlippingBook - Online magazine maker