Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

YN Y DU EFFAITH YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwill 2014-2021) 7 FED

BIOWYDDORAU CAMPWS PARC SINGLETON

Mae Abertawe yn lle gwych i astudio biowyddorau. Mae amrywiaeth o gynefinoedd yn ardal gyfagos Penrhyn G ŵ yr (safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU), yng Nghwm Tawe ac ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rydym yn defnyddio Cwch Ymchwil Mary Anning ar gyfer dysgu ac addysgu ym maes gwyddor

môr ac mae gennym fiowyddonwyr o'r radd flaenaf sydd â chysylltiadau cryf â sefydliadau allanol a safleoedd ymchwil ledled y byd. Fel myfyriwr ôl-raddedig, byddwch yn gallu cael budd o ymchwil ar y cyd a chyfleoedd o ran lleoliadau.

Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Adolygiadau ym Maes Biowyddorau • Bioamrywiaeth ac Ecoleg Iechyd • Ecosystemau, Ecoleg, Cadwraeth a Rheoli Adnoddau • Gwaith Asesu a Rheoli Amgylcheddol • Gwarchod Adnoddau Dyfrol • Gwyddor a Pholisi Hinsawdd • Modelu Systemau Daear • Prosiect Ymchwil Mewn Bioleg Amgylcheddol gyda Ffocws ar Gadwraeth a Rheoli Adnoddau • Sgiliau Gwyddoniaeth a Dulliau Ymchwil

BIOLEG AMGYLCHEDDOL: CADWRAETH A RHEOLI ADNODDAU MSc ALl RhA Mae ein rhaglen MSc yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng organebau byw a'r amgylcheddau tiriogaethol, d ŵ r croyw a morol, ynghyd â'r rhyngweithio sy'n deillio o brosesau naturiol ac anthropogenig. Cewch fudd o hyfforddiant lefel uwch ar ddehongli materion amgylcheddol lleol a byd-eang, agweddau maes a damcaniaethol ar fioleg ac ecoleg a sgiliau dadansoddol.

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael.  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• Synhwyro o Bell Lloeren • Systemau Gwybodaeth Daearyddol

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

56

Made with FlippingBook - Online magazine maker