BIOWYDDORAU CAMPWS PARC SINGLETON
ragor o'n themâu ymchwil, lle'r byddwch yn meithrin gwybodaeth fanwl am ein meysydd arbenigol. Ein themâu ymchwil yw: Systemau Morol a D ŵ r Croyw Rydym yn dilyn dull amlddisgyblaethol ac yn adeiladu ar hanes cryf o ymchwil ddyfrol ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn ateb cwestiynau ymchwil sylfaenol a chymhwysol sydd â'r nod o gynnal gwasanaethau ecosystem o amgylcheddau morol a d ŵ r croyw. Rydym hefyd yn ystyried natur gydgysylltiedig amgylcheddau d ŵ r croyw, aberol a morol gwahanol a bodau dynol fel elfennau allweddol o'r systemau hyn. Ecoleg ac Esblygiad Ymddygiadol O raddfa foleciwlaidd i raddfa facro-esblygol, rydym yn ymchwilio i sail addasiadau ymddygiadol a morffolegol. Rydym yn canolbwyntio ar ddeall cymdeithasoldeb anifeiliaid, ecoleg symud ac ysgogiadau a dulliau esblygol ymddygiad. Bioamrywiaeth ac Ecosystemau Mae newid amgylcheddol byd-eang yn addasu ac yn effeithio ar ecosystemau a bioamrywiaeth, a'r swyddogaethau a'r gwasanaethau cynnal bywyd a ddarperir ganddynt. Ein nod yw deall y dulliau a'r swyddogaethau sy'n ysgogi patrymau bioamrywiaeth a dynameg ecosystemau, er mwyn llywio gwaith rheoli a pholisi'n well o raddfa leol i raddfa fyd-eang. Mae ein cryfderau'n deillio o synergeddau cyfuno dulliau arbrofol, maes a damcaniaethol, o lefel unigolion i lefel poblogaeth a chymuned. Mae ein gwaith yn cwmpasu ecosystemau o bob cwr o'r byd, o ynysoedd trofannol i arfordiroedd a riffiau tymherus;
Cynhyrchion Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol Nod ein hymchwil yw manteisio i'r eithaf ar fuddiannau adnoddau naturiol gan darfu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd. Rydym yn mynd i'r afal â heriau amgylcheddol a chymdeithasol drwy ymchwil gymhwysol a, thrwy wneud hynny, rydym yn hyrwyddo ecosystemau iach a chynaliadwy. Mae ein ffocws yn eang, ac yn amrywio o ddefnyddio systemau microbaidd ar gyfer datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd (biofforio, bioadfer), i fynd i'r afael â diogelwch bwyd dyfrol a thiriogaethol (dyframaeth, bioreolaeth, ecoleg afiechyd), a stiwardiaeth amgylcheddol (rheoli rhywogaethau ymledol; rhyngweithio rhwng pobl a'r amgylchedd). Mae cydweithio rhwng disgyblaethau ag academyddion, busnesau a llunwyr polisïau yn rhan ganolog o'n gwaith ymchwil. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein hymchwil ar ein gwefan: abertawe.ac.uk/biowyddorau/ ymchwil-ac-effaith
BIOWYDDORAUMRes ALl RhA GWYDDORAU BIOLEGOL MPhil/ PhD ALl RhA Mae'r Adran Biowyddorau yn gwneud gwaith ymchwil ar amrywiaeth o bynciau yn y gwyddorau naturiol, gan gyfuno gwyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol i greu amgylchedd ymchwil cyflawn. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedair thema, sydd wedi'u hintegreiddio yn ein cenhadaeth addysg. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n llawn cymhelliant ac sy'n meddu ar gymwysterau addas i wneud gwaith ymchwil ôl-raddedig ar ein cyrsiau MRes Biowyddorau (rhaglen ALl blwyddyn o hyd), MPhil (rhaglen ALl dwy flynedd o hyd) neu PhD (rhaglen ALl hyd at bedair blynedd o hyd). Bydd myfyrwyr MRes yn cwblhau tri modiwl a addysgir yn y tymor cyntaf, gan gynnwys ‘Sgiliau Gwyddoniaeth a Dulliau Ymchwil’ a gwblheir gan bob ymchwilydd ôl-raddedig. Prif elfen ein holl raddau ymchwil ôl-raddedig yw'r traethawd ymchwil, sydd wedi'i ymgorffori mewn un neu
o Goedwig yr Iwerydd i ecosystemau boreal.
58
Made with FlippingBook - Online magazine maker