Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CEMEG CAMPWS PARC SINGLETON

Mae gennym seilwaith ymchwil a labordai modern pwrpasol, rhagorol ac amrywiol. Mae ymchwil cemeg o ansawdd da sy'n fawr ei heffaith hefyd yn ffynnu yng nghanolfannau'r Brifysgol sydd o'r radd flaenaf fel y Ganolfan NanoIechyd, y Sefydliad ar gyfer Sbectrometreg Màs, y Sefydliad Gwyddor Bywyd, Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, y Ganolfan Nanodechnoleg Amlddisgyblaethol, Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru, y Ganolfan Technolegau D ŵ r Uwch ac Ymchwil Amgylcheddol a'r Ganolfan Ymchwil i Ddefnyddiau. Rydym yn cydweithio'n agos â'r Coleg Peirianneg, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac adrannau gwyddoniaeth eraill i greu amgylchedd o ragoriaeth ymchwil. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr a staff i ddyfeisio, arloesi a datblygu cynhyrchion i gymryd camau breision a gaiff effaith ar heriau byd-eang cyfredol.

Cemeg Iechyd, Bwyd a Chyffuriau Mae ymchwil cemeg yn darparu llwybrau newydd i therapïau mwy effeithiol, rhatach a llai gwenwynig ac i adnoddau canfod clefydau a gwneud diagnosis nad ydynt yn ymwthiol. Bydd yn arwain at drawsnewid y tirlun cyfan o ran darganfod cyffuriau, eu datblygu a gofal iechyd, nad yw'n fforddiadwy ar hyn o bryd ac y mae angen iddo fod o fudd i fwy o gleifion. Mae ein hymchwil a hyfforddiant ôl-raddedig yn y meysydd canlynol: • Cemeg Coloid • Cyflenwi Cyffuriau • Cynhyrchion Fferyllol • Gronynnau Cyffuriau • Therapiwteg Aml-Effaith Cemeg Defnyddiau Ymhlith y meysydd ymchwil mae: • Ailgylchu Defnyddiau • Bioddefnyddiau a Pheirianneg Meinweoedd • Defnyddiau 2D, Graffen a Defnyddiau Electronig • Delweddu • Microhylifegau • Microstrwythurau a Nanostrwythurau

CEMEGMSc drwy Ymchwil/MPhil/ PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar themâu Cemeg Ynni; Cemeg Iechyd, Bwyd a Chyffuriau; Cemeg Defnyddiau; Cemeg Lled-ddargludyddion a Chemeg Arwyneb a Sbectrosgopi. Cemeg Ynni Un o'r meysydd allweddol lle bydd angen datblygiadau ym maes cemeg yw cynnig atebion i'r her ynni fyd-eang. Ymhlith y meysydd ymchwil mae: • Batris Ac Uwchgynwysyddion • Cemeg Olew a Nwy • Cemeg Werdd • Ffotocemeg, Catalyddion ac Ailffurfio Biomas gan Ddefnyddio Ynni Solar • Storio a Chynhyrchu Ynni

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyllid ar gyfer graddau ymchwil. Yn ddiweddar rydym wedi sicrhau cyllid gan sefydliadau fel Cyngor Ymchwil Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) ar gyfer ysgoloriaethau ôl-raddedig. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• Sgaffaldiau Deallus • Synthesis Polymerau

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

59

Made with FlippingBook - Online magazine maker