Y CLASURON, HANES YR HENFYD AC EIFFTOLEG
ANSAWDD YMCHWIL (The Complete University Guide 2019) YN Y DU 10 FED
CAMPWS PARC SINGLETON
‘Byddwch anwybodus o'r hyn a ddigwyddodd cyn eich geni a byddwch blentyn byth bythoedd’ (Cicero).
O arwrgerddi Homer a Fyrsil i'r nofelau cyntaf, o hud a lledrith yr Aifft a mytholeg Gwlad Groeg i athroniaeth Platon ac Aristotlys a thwf Cristnogaeth, o ffaroaid yr Aifft a democratiaeth Athenaidd i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, mae gwareiddiadau henfydoedd yr Aifft, Gwlad Groeg a Rhufain wrth wraidd ein diwylliant a'n meddylfryd modern.
Tra bod hyfforddiant iaith lefel uwch ar gael ar y cwrs MA hwn, nid oes ei angen, a chroesewir myfyrwyr sydd am ganolbwyntio ar bynciau'n ymwneud â threftadaeth, amgueddfeydd, a dehongli diwylliant materol hefyd. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Ar ôl yr Ymerodraeth: yr Aifft Pharaonaidd yn y Mileniwm Cyntaf BCE • Bywyd Preifat yn yr Hen Aifft • Cyrraedd y Cyhoedd: Amgueddfeydd a Thrin Gwrthrychau • Fforwyr, Teithio a Daearyddiaeth yn yr Henfyd • Hen Nwbia: Archaeoleg Cymydog yr Aifft yn Affrica • Modiwlau Iaith yn yr Hen Eifftaidd: Eiffteg Canol (pob lefel o'r dechrau i'r uwch), Hen Eiffteg neu Eiffteg Hwyr • Portffolio Ymchwil Eifftoleg • Pynciau Arbennig mewn Eifftoleg • Traethawd Hir Eifftoleg
Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Archeoleg a Thopograffeg Rhufain Hynafol • Barddoniaeth Ffeithiau: Hanes ar Gân • Fforwyr, Teithio a Daearyddiaeth yn yr Henfyd • Hen Roeg neu destunau Groeg • Lladin neu destunau Lladin • Rhamant Bly ŷ g ac Adnewyddu Nofelau • Theori a genres naratif • Traethawd Hir mewn Hanes yr Henfyd a/neu Lenyddiaeth Glasurol • Y Da a'r Drwg yn y Cynfyd Diweddar Cristnogol DIWYLLIANT YR HENAIFFT MA ALl RhA Mae MA Diwylliant yr Hen Aifft yn pwysleisio nid yn unig astudio diwylliannau deallusol a materol yr hen Aifft, ond hefyd ei hiaith. Mae gan Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe ased amhrisiadwy ar ffurf ei Chanolfan yr Aifft bwrpasol, sy'n gartref i fwy na 3,000 o wrthrychau o'r hen Aifft (yn ogystal ag arteffactau Groegaidd a Rhufeinig), y casgliad mwyaf o'i fath yng Nghymru. Mae'r casgliad pwysig a thrawiadol hwn yn adlewyrchu dros 5,000 o flynyddoedd o ddatblygiad dynol o'r cyfnod cynhanesyddol i'r cyfnod Cristnogol cynnar ac mae'n chwarae rhan annatod yn ein haddysgu.
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Y CLASURONMA ALl RhA Mae'r MA Clasuron yn astudio Groeg a Lladin, a llenyddiaeth a gwareiddiad Groegaidd a Lladin. Mae'r MA yn eich galluogi chi i feithrin eich sgiliau darllen mewn dwy iaith hynafol a'u defnyddio wrth astudio detholiad o rai o'r testunau llenyddol pwysicaf o'r henfyd. Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
61
Made with FlippingBook - Online magazine maker