Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

• Hanesyddiaeth • Hen Gyprus • Hen Nwbia a'r Swdan • Llenyddiaeth Naratif Hynafol a'r Nofel Hynafol • Plato • Rhywedd yn yr Hen Aifft • Technoleg Hynafol • Trasiedi Groegaidd • Trefoli Groeg-Rufeinig (Pompeii yn Benodol) KYKNOS: Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth Naratif Hynafol Mae KYKNOS (y gair Groeg am Alarch) yn ysgogi, yn cydlynu ac yn hyrwyddo ymchwil i lenyddiaeth naratif y cynfyd. OLCAP: Y gr ŵ p ymchwil ar gyfer Ymagweddau a Ganolbwyntir ar Wrthrychau a Thirwedd tuag at y Gorffennol.

ar-lein i lyfryddiaethau a mynegai cyfeirnodi allanol. Ymhlith yr adnoddau mae: JSTOR, Dyabola, Thesaurus Linguae Graecae, Loeb Classical Library, Patrologia Latina a Teubner Latin sy'n destunau ar-lein, yr Online Egyptological Bibliography, a chronfa ddata Gnomon. Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg yn perthyn i'r Ganolfan Graddedigion yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r Ganolfan yn darparu cymorth bugeiliol yn ogystal â chymorth gweinyddol ac mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth ym maes sgiliau ymchwil, a hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i gymuned ymchwil ôl-raddedig y Coleg o 200 o fyfyrwyr.

Prif nod y grŵp yw hyrwyddo a chefnogi ymchwil, addysgu, a hyfforddiant sydd wedi’i gynnwys i ryw raddau ym meysydd astudiaethau diwylliant materol a thirwedd yn enwedig lle maent yn gysylltiedig â’r byd hynafol. Y Ganolfan Eifftaidd Mae Seminarau Ymchwil Canolfan yr Aifft yn darparu gofod anffurfiol i drafod ymchwil arloesol yn ymwneud ag Eifftoleg ac amgueddfeydd, yn ogystal â phontio'r bwlch gwybodaeth rhwng academyddion a'r rheini nad ydynt yn academyddion. Cyfleusterau eraill Mae llyfrgell y Brifysgol yn llawn testunau gwreiddiol, llenyddol a dogfennol, ac mae'n tanysgrifio i ystod eang o gyfnodolion cyffredinol ac arbenigol. Gellir cael mynediad

63

Made with FlippingBook - Online magazine maker