UCHAF YN Y DU YSGOL BUSNES AM RAGORIAETH YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 30
CYFRIFEG A CHYLLID CAMPWS Y BAE
Rydym yn cynnig rhaglenni a fydd yn eich helpu i feithrin y wybodaeth a'r arbenigedd i ffynnu mewn amrywiaeth o amgylcheddau busnes ac ariannol dynamig. Mae'r gyfres gyntaf o raglenni ar gyfer myfyrwyr ag unrhyw radd israddedig sydd am ddilyn gyrfa ym maes cyfrifeg neu gyllid. Mae'r ail yn gyfres o raglenni MSc lefel uwch ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio peth cyfrifeg a/neu gyllid ar lefel israddedig ac sydd nawr am arbenigo er mwyn gwella eu cyflogadwyedd a'u rhagolygon gyrfa.
Mae llawer o'n modiwlau yn cynnig achrediad proffesiynol gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Hefyd, mae gennym gysylltiadau cryf â'r Sefydliad Ariannol Siartredig (CFA), felly bydd ein rhaglenni yn helpu i'ch rhoi ar lwybr carlam ym maes cyfrifeg a chyllid drwy eich cysylltu â chyrff proffesiynol neu eich eithrio rhag arholiadau proffesiynol allweddol. Byddwch yn cael budd o fod wedi'ch cydleoli â diwydiant ar Gampws arloesol y Bae, gan weithio ochr yn ochr â chwmnïau fel Fujitsu.
CYFRIFEG A CHYLLIDMSc ALl ION Wedi'i chynllunio'n benodol i wella rhagolygon cyflogaeth drwy gynnig cyfle i chi feithrin dealltwriaeth ddatblygedig a manwl o bynciau cyfrifeg a chyllid allweddol. Bydd graddedigion y rhaglen hon yn meddu ar wybodaeth ddatblygedig o adnoddau a thechnegau allweddol ym maes cyfrifeg a chyllid, modelu ariannol, a chyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheoli. Gall myfyrwyr hefyd gael eu heithrio rhag gorfod sefyll hyd at saith arholiad sylfaenol ACCA ar y rhaglen hon. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyfrifeg Ariannol • Cyfrifeg Rheoli • Dulliau Ymchwil Meintiol • Egwyddorion Cyllid • Marchnadoedd Ariannol Rhyngwladol
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
RHAGLENNI I FYFYRWYR O UNRHYW GEFNDIR PWNC Mae'r rhaglenni hyn yn ddelfrydol os hoffech ddilyn gyrfa ym maes cyfrifeg neu gyllid. Mae pob un ohonynt yn cwmpasu egwyddorion allweddol cyllid a'r methodolegau meintiol sy'n ymwneud â'r maes cyfrifeg a chyllid. Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn fwy na pharod i gynnig cymorth ariannol i sêr mwyaf disglair y dyfodol. Nid dim ond rhagoriaeth academaidd a wobrwywn – rydym hefyd yn cydnabod ac yn annog angerdd dros astudio a chyfrannu at fywyd. Mae amrywiaeth o gyfleoedd cyllido ar gael ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig /ysgoloriaethau
• Paratoi a Dadansoddi Datganiadau Ariannol
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
64
Made with FlippingBook - Online magazine maker